Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir 2010 i 2011

Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 i 2011.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2010 i 2011

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch official.publishing@nationalarchives.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu prif gyflawniadau’r Gofrestrfa Tir yn ystod y flwyddyn ariannol 2010 i 2011, ynghyd â’r risgiau a’r materion a wynebodd.

Mae’n cyflwyno gwybodaeth am:

  • lywodraethu
  • effeithlonrwydd, data, sicrwydd a gallu
  • datblygu a chyflwyno polisi

Yn ogystal, mae’n nodi sut y rheolwyd rhaglenni, prosiectau, cyllid, pobl a gwybodaeth.

Mae’r datganiadau ariannol a nodiadau yn nodi gwariant y Gofrestrfa Tir ar gyfer y 12 mis a’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2011.

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Senedd yn unol ag Adran 101 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Cyflwynwyd y cyfrifon i’r Senedd yn unol ag Adran 4(6)(a) o Ddeddf Cronfeydd Masnachu’r Llywodraeth 1973 fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Masnachu’r Llywodraeth 1990. Gorchmynnwyd gan Dŷ’r Cyffredin i’w argraffu ar 30 Mehefin 2011.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2011