Gwybodaeth am yrfaoedd
Swyddogion Cofrestru a Swyddogion Gweithredol Cofrestru
Dyma'r swyddi sy'n destun recriwtio fel rheol gan y Gofrestrfa Tir.
Mae bod yn Swyddog Cofrestru neu'n Swyddog Gweithredol Cofrestru yn un o'n swyddfeydd lleol yn rhoi'r cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ennill profiad ar draws ystod eang o ddyletswyddau cofrestru tir hanfodol. Mae swyddi yn ein Prif Swyddfa yn Llundain yn rhoi cyfle i gael profiad o nifer o feysydd polisi a gweithredol gwaith y Gofrestrfa Tir. Mae'r holl swyddi'n rhoi llwyfan gwerthfawr ar gyfer datblygiad gyrfa.
Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr, fel y byddech yn disgwyl o sefydliad sydd wedi ennill gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl.
Nid ydym yn gofyn am gymwysterau addysgol penodol. Yn hytrach, mae'r Gofrestrfa Tir wedi nodi'r sgiliau a'r galluoedd y dylai ei staff feddu arnynt i weithredu'n effeithiol. Cymwyseddau Craidd y Gofrestrfa Tir yw ein henw am y rhain. Mae ein prosesau Recriwtio a Dethol yn ceisio pennu a oes gan unigolyn y nodweddion rydym yn chwilio amdanynt.
Cyfleoedd Arbenigol
Yn ogystal â swyddi Swyddogion Cofrestru a Swyddogion Gweithredol Cofrestru, weithiau bydd angen i'r Gofrestrfa Tir recriwtio arbenigwyr ar raddfeydd a lleoliadau amrywiol yng Nghymru a Lloegr. Gall y swyddi hyn fod mewn nifer o feysydd, yn cynnwys Cyllid a Chyfrifeg, Technoleg Gwybodaeth, Personél, neu unrhyw un o'r arbenigeddau eraill sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni gwaith beunyddiol y sefydliad yn llwyddiannus.
Gweithlu Amrywiol
Mae'r Gofrestrfa Tir yn cydnabod ac yn hyrwyddo'n weithredol fanteision gweithlu amrywiol lle rydym yn ceisio sicrhau cyfle cyfartal a thrin yr holl weithwyr gydag urddas a pharch. Rydym yn ceisio cael y gorau o ddoniau pawb fel ein bod yn diwallu anghenion y sefydliad a'n cwsmeriaid.
Rydym yn cydnabod y tebygolrwydd bod rhai grwpiau mewn cymdeithas yn dal i gael eu trin yn annheg ac yn destun gwahaniaethu a byddwn yn parhau i weithio at ddileu triniaeth o'r fath yn y Gofrestrfa Tir. Croesawn yn arbennig geisiadau gan grwpiau o'r gymuned sy'n cael eu tangynrychioli yn y Gofrestrfa Tir ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu Cynllun Symbol Anabledd y Gwasanaeth Cyflogaeth, sef 'Y Ddau Dic', gan ei bod yn cydnabod bod pobl ag anableddau wedi bod o dan anfantais ac wedi'u tangynrychioli yn y farchnad waith. Golyga hyn y bydd pob person ag anabledd sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd y gwnaethant gais amdani yn cael mynediad awtomatig i gam terfynol y broses ddethol. Defnyddir y dystiolaeth a roddwyd ar y ffurflen gais i farnu a ddangoswyd y safon angenrheidiol ai peidio.