Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

 

Mae'n staff a'n cwsmeriaid yn bwysig i ni. Ein hamcn yw darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf sy' cael ei gyflenwi gan dimoedd sy'n adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Nid yw amrywiaeth yn 'ddewisol' i ni: mae'n rhan hanfodol o'n busnes; mae'n helpu i gael tegwch yn y gweithle ac yn gwella'n gwasanaethau i'r cyhoedd.

I ddangos yr ymrwymiad hwn, mae'n Cynllun cydraddoldeb cynhwysfawr 2007-2010 (PDF 463kb) a'n Cynllun gweithredu'r cynllun cydraddoldeb cynhwysfawr (PDF 168kb) yn amlinellu sut rydym yn adeiladu gweithlu sy'n dathlu amrywiaeth. Mae'r ddwy ddogfen bolisi hon yn cyfuno'n cynlluniau cydraddoldeb presennol ar hil ac anabledd  yn ogystal â chefnogi'n hymrwymiad o ran dyletswydd i sicrhau cydraddoldeb rhyw.

O ganlyniad i'n cynlluniau cydraddoldeb, rydym wedi dechrau pwyso a mesur ein gweithgareddau a'n polisïau i weld pa mor berthnasol ydynt i amrywiaeth ac rydym wedi cyflwyno pecyn asesu effaith ar gydraddoldeb sy'n cynnwys pob agwedd ar amrywiaeth. Ceir manylion ymarferion asesu arfaethedig yn ein Cynllun Cydraddoldeb Cynhwysfawr a chyhoeddir pob asesiad ar y wefan hon.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad Polisi Amrywiaeth, neu mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Amrywiaeth:

Y Tîm Amrywiaeth, Swyddfa Nottingham (Gorllewin), Chalfont Drive, Nottingham
NG8 3RN

Ffôn: (0115) 906 2923
Minicom:  0800 01535
Ebost: HRDiversity@landregistry.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â Julie Dennis, Pennaeth Amrywiaeth y Gofrestrfa Tir
Ffôn: 0115 906 2923.