Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Amrywiaeth - datganiad polisi

Mae'r Gofrestrfa Tir yn ymroddedig i gyfle cyfartal ar gyfer ei holl staff a thriniaeth gyfartal ar gyfer ei chwsmeriaid. Byddwn yn gweithredu'n mewn modd teg, rhesymol a heb ragfarn.  Trwy sichrau ein bod yn gwireddu potensial ein holl byddwn hefyd yn sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Ein hamcan yw:

  • sicrhau bod ein staff i gyd yn ymwybodol o bolisi'r sefydliad ynghylch rheoli amrywiaeth a chymryd camau priodol i wella gwybodaeth a dealltwriaeth; byddwn yn cymryd camau priodol erbyn unrhyw un sy'n ymddwyn yn groes i'n hymrywmiad i amrywiaeth
  • sicrhau bod ein safonau o leiaf yn adlewyrch ymarfer gorau a gofynion y gyfraith ynghyd ag unryw Godau Ymarfer perthnasol
  • sicrhau bod cyfleoedd recriwtio, dethol, penodi, hyfforddiant, datblygiad a dyrchafiad ar gael i bawb; byddwn yn sicrhau bod ein systemau rheoli perfformiad, asesu a gwobrwyo yn deg, diduedd ac yn rhydd o unrhyw ragfarn a stereoteipio
  • creu a hyrwyddo awyrgylch sy'n rhydd o aflonyddu, bwlio, gwahaniaethu ac erledigaeth, a sicrhau bod gwybodaeth am y materion hyn yn rhan hanfodol o ddiwylliant y sefydliad
  • cyflogi gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau lleol a chymdeithas yn gyffredinol, sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu'r unigolyn gan ddarparu i'n holl gwsmeriaid wasanaeth sy'n deg ac yn diwallu eu hanghenion amrywiol.
  • gosod targedau uchelgeisiol sy'n seiliedig ar amrywiaeth er mwyn sicrhau gwelliant, a chymryd camau i ddatrys gwendidau. Byddwn yn monitro'r targedau hyn yn rheolaidd.