Llywodraethu'r Gofrestrfa Tir
Cyfrifoldeb dau uwch fwrdd rheoli y Gofrestrfa Tir yw llywodraethu da, atebolrwydd cyhoeddus a rheolaeth strategol a bob dydd.
Mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn gyfrifol am ei chyfeiriad strategol, llywodraethu da, a pherfformiad cyffredinol y Gofrestrfa Tir. Mae'n cynnwys dau gyfarwyddwr anweithredol sy'n caderio'r Pwyllgor Tâl a'r Pwyllgor Archwilio.
Mae Bwrdd y Gweithredwyr yn sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei gyflawni ac mae'n gyfrifol am reolaeth bob dydd y Gofrestrfa Tir.
Bwrdd y Gofrestrfa Tir
Diben Bwrdd y Gofrestrfa Tir yw gosod strategaeth y Gofrestrfa Tir ar gyfer y dyfodol.
Aelodau
Peter Collis (Cadeirydd) – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Ted Beardsall – Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Datblygu Busnes
Joe Timothy – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Andy Howarth – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
John Wright – Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth
Malcolm Dawson – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Mike Cutt – Cyfarwyddwr Anweithredol
David Rigney – Cyfarwyddwr Anweithredol
Jan Batho – Ysgrifennydd
Cyfrifoldebau
Yn benodol, mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn:
- gosod y strategaeth (Cynllun Strategol 10 mlynedd, Glasbrint ayb) ac yn penderfynu ar ei blaenoriaethau
- cymeradwyo'r dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion eraill i'w rhoi gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Cyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor bob blwyddyn ac yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud i'w cyflawni
- adolygu'r busnes ar lefel uchel trwy gyfrwng adroddiadau uchafbwyntiau o Fwrdd y Gweithredwyr
- adolygu perfformiad y busnes gan gynnwys iechyd a diogelwch, yr iaith Gymraeg, armywiaeth, peryglon busnes a materion archwiliad
- trafod materion a allai effeithio ar gyfeiriad strategol y busnes neu ei enw da.
Bwrdd y Gweithredwyr
Diben Bwrdd y Gweithredwyr yw cymeradwyo cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir a chadw llygad ar hynt y gweithrediadau ynddo.
Aelodau
Peter Collis (Cadeirydd) – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Ted Beardsall – Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Datblygu Busnes
Joe Timothy – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Andy Howarth – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
John Wright – Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth
Malcolm Dawson – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Jan Batho – Ysgrifennydd
Cyfrifoldebau
Yn benodol, mae Bwrdd y Gweithredwyr yn:
- cymeradwyo a monitro cynlluniau busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir
-awgrymu dangosyddion perfformiad allweddol y Gofrestrfa Tir ac yn monitro eu hynt
- adolygu'r sefyllfa o ran gweithrediadiau, cyllid, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth a materion a gyfeirir iddynt gan gadeiryddion is-fyrddau
- trafod a datrys materion lle mae angen cyfraniad mwy nag un cyfarwyddwr.