www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Amdanom ni

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Llywodraethu'r Gofrestrfa Tir

Cyfrifoldeb dau uwch fwrdd rheoli y Gofrestrfa Tir yw llywodraethu da, atebolrwydd cyhoeddus a rheolaeth strategol a beunyddiol.

Mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn gyfrifol am gyfeiriad strategol, llywodraethu da, a pherfformiad cyffredinol y Gofrestrfa Tir. Mae'n cynnwys dau gyfarwyddwr anweithredol sy'n cadeirio'r Pwyllgor Tâl a'r Pwyllgor Archwilio.

Mae'r Bwrdd Gweithredol yn sicrhau bod y cynllun busnes blynyddol yn cael ei gyflawni ac mae'n gyfrifol am reolaeth feunyddiol y Gofrestrfa Tir.

Bwrdd y Gofrestrfa Tir

Diben Bwrdd y Gofrestrfa Tir yw gosod strategaeth gyffredinol y Gofrestrfa Tir a chynorthwyo'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr yn ei gyfrifoldeb a'i atebolrwydd terfynol mewn perthynas â llywodraethu a pherfformiad da'r Gofrestrfa Tir.

Aelodau
Marco Pierleoni (Cadeirydd) – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Alasdair Lewis – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
John Peaden – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
Annette Davies-Govett - Cyfarwyddwr y Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid
John Wright – Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth
Malcolm Dawson OBE – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Catherine Raines – Cyfarwyddwr Anweithredol
Mike Cutt – Cyfarwyddwr Anweithredol

Nicky Heathcote – Ysgrifennydd

Cyfrifoldebau

Yn benodol, mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn:
- gosod y strategaeth gyffredinol ac yn penderfynu ar ei blaenoriaethau
- cymeradwyo'r dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion eraill i'w rhoi gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Cyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor bob blwyddyn ac yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud i'w cyflawni
- adolygu perfformiad, rheolaeth risg a rheoli trwy gyfrwng adroddiadau uchafbwyntiau o'r Bwrdd Gweithredol
- adolygu llywodraethu'r busnes gan gynnwys iechyd a diogelwch, yr iaith Gymraeg, amrywiaeth, peryglon busnes a materion archwiliad
- trafod materion a allai effeithio ar gyfeiriad strategol y busnes neu ei enw da.

Y Bwrdd Gweithredol

Diben y Bwrdd Gweithredol yw cymeradwyo cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir a bod yn gyfrifol am reolaeth feunyddiol y Gofrestrfa Tir.

Aelodau
Marco Pierleoni (Cadeirydd) – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Alasdair Lewis – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
John Peaden – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
Annette Davies-Govett - Cyfarwyddwr y Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid
John Wright – Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth
Malcolm Dawson – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Nicky Heathcote – Ysgrifennydd

Cyfrifoldebau
Yn benodol, mae'r Bwrdd Gweithredol yn:
- cymeradwyo cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir
- awgrymu dangosyddion perfformiad allweddol y Gofrestrfa Tir ac yn monitro eu hynt
- adolygu'r sefyllfa o ran gweithrediadau, cyllid, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth a materion a gyfeirir atynt gan gadeiryddion is-fyrddau
- codi materion i Fwrdd y Gofrestrfa Tir i'w hadolygu a'u datrys sy'n effeithio'n gyffredinol ar strategaeth y Gofrestrfa Tir.

Manylion treuliau busnes