Rhyddid gwyybodaeth
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae'n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus gymryd camau i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â'r darpariaethau Cynllun Cyhoeddiadau a bennir yn adran 19 y Ddeddf.
O 1 Ionawr 2009 bydd y Gofrestrfa Tir yn mabwysiadu Cynllun Cyhoeddiadau safonol sydd wedi'i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Bydd y Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir yn mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddiadau safonol newydd ar gyfer Adrannau Anlwyodraethol o 1 Ionawr 2009.
Ers 1 Ionawr 2005 mae gennych yr hawliau canlynol o ran gwybodaeth sy'n cael ei dal gan y Gofrestrfa Tir:
- I gael eich hysbysu (ar ffurf ysgrifenedig) a yw'r Gofrestrfa Tir yn dal y wybodaeth a nodir yn eich cais, ac
- I fynnu bod y wybodaeth honno'n cael ei chyfathrebu ichi os yw'r Gofrestrfa Tir yn ei dal ac os nad yw un neu fwy o'r eithriadau penodol a amlinellir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol iddi.
Hanfod mynediad, yn ôl deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth yw cael gafael ar wybodaeth. Os ydych chi, fel unigolyn neu gwmni, am ailddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd i chi mae'n rhaid i chi ofyn i'r Gofrestrfa Tir am ganiatâd. Mae ailddefnyddio yn golygu gwneud copïau, cyhoeddi'r wybodaeth ac, efallai, elwa'n fasnachol arni. Felly cysylltir ailddefnydd yn agos iawn â hawlfraint a thrwyddedu. O ganlyniad, os byddwn yn darparu dogfennau i chi dan Ryddid Gwybodaeth, nid yw'n rhoi hawl awtomatig i chi ailddefnyddio'r dogfennau hynny.
Mae'r Ddeddf yn pennu nifer o eithriadau i'r hawl hon i wybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys materion diogelwch gwladol, gwybodaeth fasnachol neu gytundebol a chofnodion y llys. Gellir gofyn am ddata personol (gwybodaeth amdanoch chi fel unigolyn) a all fod gan y Gofrestrfa Tir yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau rhyddid gwybodaeth ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.