www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Eich hawliau gwybodaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Siarter Gwybodaeth

Diben

Mae'r Siarter hwn yn nodi'r safonau y gallwch eu disgwyl gennym (y Gofrestrfa Tir) wrth ymdrin â gwybodaeth bersonol a'i chadw.

Mathau o wybodaeth

Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw'n bersonol. Mae cadw'r wybodaeth hon yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau statudol, gwasanaethu cwsmeriaid a bodloni'n rhwymedigaethau fel cyflogwr.

Mae Deddf Diogelu Data 1998 (DDD) yn rhoi'r fframwaith statudol mewn perthynas â gwybodaeth bersonol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Datganiad Diogelu Data.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rheoli pa wybodaeth arall y gallwn ei rhyddhau o ganlyniad i gais am wybodaeth.

Pan fyddwn yn trin gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'n swyddogaethau statudol, mae eich hawliau o dan DDD wedi'u cyfyngu. Mae'r DDD yn ein caniatáu i ddefnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn.

Gweler ein Datganiad Preifatrwydd ar wahân am fanylion am wybodaeth bersonol o'n gwefan.

Gwybodaeth bersonol a gedwir at ddibenion eraill

Ar gyfer rhai o'n gwasanaethau, mae'r telerau ac amodau yn nodi'r hyn y gallem ei wneud gyda'ch gwybodaeth. Dylech wirio'r telerau ac amodau ar gyfer y gwasanaethau hynny. Yn amodol ar hyn, pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol at ddibenion y tu allan i'n rhwymedigaethau a'n dyletswyddau statudol, byddwn yn:

— sicrhau eich bod yn gwybod pam fod angen y wybodaeth arnom;

— gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom yn unig;

— ei diogelu a sicrhau bod mynediad iddi wedi'i gyfyngu;

— rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rhannu â sefydliadau eraill (heblaw os caiff ei rhannu at ddibenion gorfodi'r gyfraith);

— sicrhau nad ydym yn ei chadw am fwy o amser nag sydd angen.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi:

— roi gwybodaeth gywir i ni; a

— dweud wrthym cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd.

Mae hyn yn ein helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddibynadwy ac yn gyfoes.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o fanylion am:

— sut i wybod pa wybodaeth a gedwir gennym amdanoch a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau;

— amgylchiadau lle y gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft, er mwyn atal neu ganfod trosedd neu i gynhyrchu ystadegau dienw;

— ein cyfarwyddiadau i staff am sut i gasglu, defnyddio a dileu eich gwybodaeth bersonol a

— sut i wneud cwyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Swyddog Diogelur Data
Land Registry Head Office
Lincoln’s Inn Fields
London
WC2A 3PH
(DX1098 London/Chancery Lane)

ebost: dataprotection@landregistry.gsi.gov.uk

I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion sy'n ymwneud â rhannu data, gallwch gysylltu â

The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 08456 306060 neu 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Gwefan: www.ico.gov.uk




Chwefror 2010