Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynllun Cyhoeddiadau 2008 Contents Previous Next

Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Gofrestrfa Tir wedi cael ei lunio er mwyn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth rydym yn ei darparu neu yn bwriadu ei darparu fel rhan o’n gwaith. Fe’i lluniwyd hefyd i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a’i chael mor gyflym ag y bo modd.

Mae’r Cynllun Cyhoeddiadau yn nodi’r categorïau o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi ar hyn o bryd ac a gyhoeddir yn y dyfodol ac mae’n esbonio sut i gael y wybodaeth honno. Hefyd mae’n datgan yn glir a yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu a godir tâl amdani. Os oes angen gwybodaeth ar ffurfiau gwahanol, byddwn yn gwneud popeth o fewn rheswm i ddarparu’r wybodaeth i’r bobl hynny.

Nid yw’r Cynllun Cyhoeddiadau yn ôl-weithredol. Felly nid ydym yn ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth a gedwir gennym sy’n ddyddiedig cyn 30 Tachwedd 2002. Mae disgrifiad pob dosbarth yn amlinellu unrhyw gyfyngiadau eraill perthnasol i ryddhau a chadw dogfennau a gwybodaeth am gostau dogfennau.


Y newidiadau diweddaraf i'r Cynllun Cyhoeddiadau

Y newidiadau diweddaraf i'r Cynllun Cyhoeddiadau oedd ychwanegu'r adran Cyfarwyddyd Mewnol ym mis Medi 2006, Ein Cynllun Cyhoeddiadau: Cyfarwyddyd i Gwsmeriaid a ychwanegwyd ym Medi 2006 a'r Mynegai Prisiau Tai a ychwanegwyd yn Hydref 2006. I weld yr holl wybodaeth a gyhoeddwyd dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ers 1 Ionawr 2005, dilynwch y cyswllt hwn.

 

Gallwch symud trwy bob adran fesul tudalen trwy ddewis y botymau "nesaf" neu "blaenorol" sydd ar frig y dudalen hon ar y dde. Neu gallwch fynd yn syth i'r adran neu is-adran sydd o ddiddordeb i chi trwy ddewis y botwm "cynnwys".



Gallwch lwytho copi o'r ddogfen hon i lawr a'i argraffu trwy ddilyn y cyswllt hwn. Mae'r ffeil hon ar ffurf Adobe Acrobat Adobe Pdf Format. I weld y math hwn o ffeil bydd angen Adobe Acrobat Reader (fersiwn 3.0 neu ddiweddarach) arnoch. Mae hwn ar gael yn ddi-dâl gan Adobe.