Gwasanaethau ymgynghori, cynghori a masnachol
Gwybodaeth yn berthnasol i eiddo a thir, wedi'i llunio i gefnogi gofynion busnes sefydliadau yn unol ag amcanion strategol y Gofrestrfa Tir. Nid yw'r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion neu achosion arbennig, gwybodaeth gyfrinachol, gwybodaeth sy'n debygol o ragfarnu buddion masnachol neu ddiogelwch unrhyw unigolyn neu'r Gofrestrfa Tir, neu wybodaeth sy'n amodol ar fraint broffesiynol gyfreithiol.
Teitl: Gwasanaethau ymgynghori a chynghori Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir yn datblygu gwasanaethau ymgynghori a chynghori ar dir ac eiddo ar hyn o bryd sydd wedi'u dylunio i gefnogi gofynion busnes sefydliadau o ran eiddo a thir. Bydd y rhain yn cynnwys amrywiaeth o setiau data eiddo Fformat: Fersiwn electronig a phapur Manylion mynediad: Pan fydd y gwasanaethau ar gael, gall ceisiadau gael eu cyflwyno i'n Tîm Gwasanaethau Ymgynghori yn y cyfeiriad canlynol: -
Tîm Gwasanaethau Ymgynghori Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa Lincoln's Inn Fields Llundain WC2A 3PH Ffôn 020 7166 4857 Ebost Commercial.Services@landregistry.gsi.gov.uk
COST: Codir tâl am wasanaethau ymgynghori a
chynghori.
|