Data sy'n cael eu casglu gan y Gofrestrfa Tir yn berthnasol i brisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr
Gwasanaethau masnachol
Teitl: Adroddiadau Pris Eiddo Preswyl Safonol Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir gynnig gwasanaeth adroddiad safonol lle mae modd archebu adroddiadau pris eiddo sy'n dangos data agregedig ar gyfer unrhyw ranbarth, sir neu ddosbarth awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr neu unrhyw ardal côd post, dosbarth neu sector. Gallwn ddarparu adroddiadau ar wahân ar gyfer hen eiddo ac eiddo newydd a bandiau prisiau ar gyfer unrhyw dri mis o 1995 hyd heddiw.
Teitl: Set Ddata Pris a Dalwyd Disgrifiad: Data a gasglwyd gan y Gofrestra Tir yn ymwneud â phrisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae data pris a dalwyd i lawr i lefel cyfeiriad ar gael o Ebrill 2000 Fformat: Fersiwn electronig Manylion mynediad: Cais i'n Tîm Gwasanaethau
Masnachol
Teitl: Data Electronig i'w Allfudo Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir yn rhoi trwyddedau ailddefnyddio polygonau i awdurdodau lleol a chyrff eraill y llywodraeth. Fformat: Fersiwn electronig Manylion mynediad: Cais i'n Tîm Gwasanaethau Masnachol
Teitl: Adroddiadau Prisiau Eiddo Preswyl Disgrifiad: Adroddiadau chwarterol ers Ionawr 1995 i Ragfyr 2006 Fformat: Fersiwn electronig
Teitl: Mynegai Prisiau Tai Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu mynegai prisiau tai annibynnol a manwl gywir. Mae'n defnyddio set ddata'r Gofrestrfa Tir o werthiannau a gwblhawyd. Felly mae'r mynegai yn seiliedig ar y gwir bris a dalwyd. Fformat: Fersiwn electronig Manylion mynediad: Gwefan
Gwasanaethau eraill
Disgrifiad: Mae taenlen ar gael sy'n dangos ein ffigyrau chwarterol ar gyfer cyfartaledd a nifer ar lefel sir a rhanbarth Data newydd: diweddariadau misol o brisiau cyfartalog a nifer gwerthiannau yn ôl math o eiddo ar gyfer pob rhanbarth, sir a bwrdeistref Llundain ar gyfer y flwyddyn flaenorol lawn a'r flwyddyn hyd yn hyn. Ail werthiannau: nifer y gwerthiannau blaenorol ers Ebrill 2000 ar gyfer eiddo a werthwyd mewn mis penodol. Fformat: Electronig Manylion mynediad: Gwefan; trwy gais i'n Tîm Gwasanaethau Masnachol yn y cyfeiriad canlynol:
Tîm Gwasanaethau Masnachol Cofrestrfa Tir Swyddfa Penbedw (Old Market) Hamilton Street Penbedw Glannau Mersi CH48 5FL Ffôn 0151 473 6137 Ebost : commercial.services@landregistry.gsi.gov.uk
Cost: Mae'r Gofrestrfa Tir yn codi tâl am y gwasanaethau hyn
Manylion mynediad: Gwefan
Mynegai Prisiau Tai
|