www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Eich hawliau gwybodaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cynllun Cyhoeddiadau Ymarfer a gweithdrefnau Contents Previous Next

    Gwybodaeth am faterion ymarferol cofrestru tir gan gynnwys manylion ynghylch sut i gael mynediad i'r Gofrestr Tir, cyngor ar ein hymarfer a gweithdrefnau a ffurflenni cais ar gyfer pob trafodiad, Deddfau a Rheolau, ffïoedd, a gwybodaeth am yr Adran Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol. Nid yw'r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion penodol (ac eithrio os oes hawl cael y wybodaeth hon dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a'i Rheolau cysylltiedig (gweler "Cofrestr Agored" isod), gwybodaeth am achosion penodol, gwybodaeth gyfrinachol, gwybodaeth sy'n debygol o ragfarnu buddion masnachol neu ddiogelwch unrhyw unigolyn neu'r Gofrestrfa Tir, neu wybodaeth sy'n amodol ar fraint broffesiynol gyfreithiol.

    Deddfwriaeth Cofrestru Tir

    Deddfau a Rheolau sy'n llywodraethu'r prosesau cyfreithiol yn gysylltiedig â chofrestru tir yng Nghymru a Lloegr

    Mae Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) yn cyhoeddi holl ddeddfwriaeth y DU, gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â Chofrestru Tir. Mae'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd a ddeddfwyd yn ystod neu ar ôl 1988 (a pheth ddeddfwriaeth cyn y dyddiad hwnnw) ar gael i'w llwytho i lawr am ddim o wefan OPSI. Mae copïau papur o'r holl ddeddfwriaeth ar gael o'r Llyfrfa. Bydd y gost yn dibynnu ar y wybodaeth a geisir.

    Mae llawer o ddeddfwriaeth yn cael effaith ar Gofrestru Tir, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ond ar hyn o bryd daw'r rhan fwyaf o ymarfer a gweithdrefn y Gofrestrfa Tir o'r canlynol:

    Deddf Cofrestru Tir 2002
    Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003
    Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2006
    Deddf Pridiannau Tir 1972
    Rheolau Pridiannau Tir 1974
    Rheolau Ffïoedd Pridiannau Tir 1990
    Deddf Credydau Amaethyddol 1928
    Rheolau Credydau Amaethyddol 1928
    Gorchymyn Ffïoedd Credydau Amaethyddol 1985