www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Eich hawliau gwybodaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cynllun Cyhoeddiadau Ymarfer a Gweithdrefnau Contents Previous Next

    Y Gofrestr Agored

    Teitl: Cofrestr Tir Cymru a Lloegr
    Disgrifiad: Y Gofrestr (sy'n cynnwys gwybodaeth am y cyfeiriad, perchennog ac unrhyw roddwyr benthyg morgais, ymysg materion eraill) a'r Cynllun Teitl (yn dangos y terfynau cyffredinol) ar gyfer pob eiddo cofrestredig.
    Fformat: Fersiwn Electronig; Copi Caled
    Manylion mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Chyfarwyddyd Cyhoeddus 1 a Chyfarwyddyd Ymarfer 11.  Gallwch gael rhywfaint o wefan y Gofrestr Tir Ar-lein hefyd.
    Cost: Codir ffi am y wybodaeth hon fel y nodir yng Ngorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2006 ac unrhyw Orchmynion dilynol.


    Teitl: Copïau Hanesyddol o Gofrestr Tir Cymru a Lloegr
    Disgrifiad:Fersiynau wedi'u disodli o'r Gofrestr (sy'n cynnwys gwybodaeth am y cyfeiriad, perchennog ac unrhyw roddwyr benthyg morgais, ymysg materion eraill) a'r Cynllun Teitl (yn dangos y terfynau cyffredinol) ar gyfer pob eiddo cofrestredig. Dim ond gwybodaeth sydd wedi'i storio eisoes ar ffurf electronig sydd ar gael, a gall hyn amrywio'n fawr rhwng un eiddo a'r llall.
    Manylion mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Chyfarwyddyd Cyhoeddus 1 a Chyfarwyddyd Ymarfer 11.
    Cost:
    Codir ffi am y wybodaeth hon fel y nodir yng Ngorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2006 ac unrhyw Orchmynion dilynol.


    Dogfennau a gedwir gan y Gofrestrfa Tir

    Teitl: Y rhan fwyaf o ddogfennau a gedwir gan y Gofrestrfa Tir sy'n ymwneud â chais
    Disgrifiad: Pob dogfen o'r fath fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, Rheol 135 Rheolau Cofrestru Tir 2003 ac unrhyw ddarpariaethau cymwys eraill
    Fformat: Copi Caled
    Manylion mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Chyfarwyddyd Ymarfer 11.  Dan rai amgylchiadau mae modd atal dogfennau rhag bod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae manylion ynghylch sut i wneud hyn wedi'u nodi yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 57 y Gofrestrfa Tir.
    Cost: Codir ffi am y wybodaeth hon fel y nodir yng Ngorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2006 ac unrhyw Orchmynion dilynol.


    Ffurflenni Cofrestru Tir

    Defnyddir Ffurflenni'r Gofrestrfa Tir i gael gwybodaeth, neu i ofyn am ychwanegiad neu addasiad i'r Gofrestr, neu i gynrychioli trafodion â thir cofrestredig. Mae ffurflenni swyddogol gorfodol a dewisol ar gyfer holl drafodion cofrestru tir ar gael i'w llwytho i lawr yn di-dâl o'r wefan.

    Fformat: Fersiwn Electronig; Copi Caled. Fel rheol mae ffurflenni cais y Gofrestrfa Tir ar gael fel dogfennau Word a ffeiliau PDF. Bydd angen i chi osod  Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur er mwyn cael ffeiliau PDF.


    Llenyddiaeth Ymarfer Allanol

    Cyngor a chymorth a gynhyrchwyd gan y Gofrestrfa Tir i helpu ei chwsmeriaid brosesu ceisiadau cofrestru tir.

    Dogfennau Gwybodaeth Eithriedig

    Teitl: Dogfennau Gwybodaeth Eithriedig
    Disgrifiad: Diffinnir Dogfennau Gwybodaeth Eithriedig yn rheol 136, Rheolau Cofrestru Tir 2003.
    Manylion mynediad:. Mewn ymateb i gais am Gopi Swyddogol o Ddogfen Gwybodaeth Eithriedig, bydd y Gofrestrfa Tir yn dosbarthu copi o’r Ddogfen Gwybodaeth Wedi'i Golygu (na fydd yn dadlennu'r wybodaeth niweidiol). Os nad yw'r ddogfen hon yn ddigonol, gellir cyflwyno cais am gopi llawn. Mae manylion ynghylch sut i wneud hyn a'r camau y bydd y Gofrestrfa Tir yn eu cymryd wedi'u cynnwys yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 57 y Gofrestrfa Tir.
    Cost: Codir ffi am y wybodaeth hon fel y nodir yng Ngorchymyn Cofrestru Tir 2006 ac unrhyw Orchmynion dilynol. Bydd y Gofrestrfa Tir yn codi ffi ostyngol ar gyfer dosbarthu copi llawn o Ddogfen Gwybodaeth Eithriedig. Ni fyddwn yn codi ffi am ddosbarthu copi llawn os yw ffi eisoes wedi cael ei thalu am ddosbarthu copi o Ddogfen Gwybodaeth Wedi'i Golygu.