www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Eich hawliau gwybodaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cynllun Cyhoeddiadau Cyflwyniad Contents Previous Next

    Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Gofrestrfa Tir yn datgan pa wybodaeth sydd ar gael neu ba wybodaeth rydym yn bwriadu ei darparu. Bydd hefyd yn eich cynorthwyo i gael hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym. Gallwch gael gwybodaeth a chyhoeddiadau trwy unrhyw un o'r dulliau canlynol:

    • eu llwytho i lawr o'n gwefan. Mae cyfeiriadau yn y cynllun at 'Wefan' yn golygu prif wefan y Gofrestrfa Tir http://www.cofrestrfatir.gov.uk/. Mae'r mwyafrif o'r dogfennau ar y wefan ar gael i'w llwytho i lawr fel ffeiliau PDF yn unig. Bydd angen i chi osod  Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur er mwyn eu cael. Y prif eithriadau yw ffurflenni cais y Gofrestrfa Tir, sydd fel arfer ar gael fel dogfennau MS Word yn ogystal â ffeiliau PDF.
    • eu llwytho i lawr o wefan trydydd parti. Bydd cyfeiriadau yn y cynllun at unrhyw wefan arall yn cynnwys cyfeiriad gwefan llawn y safle hwnnw. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau trydydd bartïon.
    • eu prynu o gyflenwr a restrir (er enghraifft, Y Llyfrfa).
    • eu cyflenwi ar gais. Mae cyfeiriadau yn y cynllun at 'Gais' yn golygu cais am wybodaeth a gyflwynir yn ysgrifenedig at

      Swyddog y Cynllun Cyhoeddiadau
      Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa
      Lincoln's Inn Fields
      Llundain WC2A 3PH
      Ebost: publication.scheme@landregistry.gsi.gov.uk

    Mae Rhan Dau y Cynllun yn disgrifio'r Dosbarthiadau Gwybodaeth y mae'r Gofrestrfa Tir yn eu cadw ar hyn o bryd. Mae'r Dosbarthiadau fel a ganlyn:

    Dan bob Dosbarth mae manylion am y wybodaeth sydd eisoes ar gael gennym neu rydym yn bwriadu ei darparu, ym mha fformat y mae'r wybodaeth ar gael, sut i'w chael a'r gost (os oes) o gael y wybodaeth.