Un o gyrff y Goron yw'r Gofrestrfa Tir ac mae'r wybodaeth a gynhyrchir gennym yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron. Mae hawlfraint y Goron yn gymwys i'r deunydd a restrir yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn oni nodir yn wahanol. Gallwch atgynhyrchu peth o'r deunydd yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn gan fod hawlfraint y Goron wedi'i hepgor. Mae hyn yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan y llywodraeth, deddfwriaeth a nodiadau esboniadol ar y ddeddfwriaeth, dogfennau ymgynghorol, a dogfennau sydd ar gael ar wefannau swyddogol (oni ddywedir yn wahanol - gweler y Telerau ac Amodau ar wefan y Gofrestrfa Tir). Yn achos mathau eraill o ddeunydd, fodd bynnag, nid yw darparu dogfennau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi'r hawl i unrhyw un neu unrhyw sefydliad i ailddefnyddio'r dogfennau mewn modd a fyddai'n torri hawlfraint, er enghraifft, trwy eu cyhoeddi, gwneud copïau lluosog, neu ddosbarthu copïau i'r cyhoedd. Gallwch atgynhyrchu darnau byr o'r deunydd yn y Cynllun Cyhoeddiadau hwn at ddibenion ymchwil anfasnachol, astudiaeth breifat, berniadaeth, adolygiad, ac adrodd newyddion. Ar gyfer unrhyw ddiben arall, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch os nad yw hawlfraint wedi cael ei hepgor. Dylid gofyn i ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw am awdurdod i ailddefnyddio deunydd hawlfraint nad yw'n eiddo'r Goron. Nid oes gan y Gofrestrfa Tir unrhyw bŵer i ganiatáu ailddefnyddio deunydd lle mae hawlfraint gan drydydd partïon.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os ydych am gael trwydded y Gofrestrfa Tir, dylech gysylltu ag:
Ymholiadau Hawlfraint y Gofrestrfa Tir Old Market House Hamilton Street Penbedw Glannau Mersi CH41 5FL Ebost: copyright@landregistry.gsi.gov.uk |