Gan ein bod wedi’n hymrwymo i gefnogi amrywiaeth, a chyflawni ein hymrwymiadau dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, byddwn yn gwneud pob ymdrech rhesymol i ddarparu’r wybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddiadau mewn print bras, Braille neu ar gasét sain.
Mae’r rhan fwyaf o Ganolfannau Gwybodaeth Cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir yn cadw stociau cyfyngedig o rai Cyfarwyddiadau Cyhoeddus a Chyfarwyddiadau Ymarfer yn y fformatau hyn. Os nad oes ganddynt y wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn y fformat a ddymunwch, byddant yn ei harchebu i chi. Bydd hyn yn cymryd ychydig o ddiwrnodau. Fodd bynnag, os na chafwyd cais am y ddogfen o'r blaen, mae'n bosib y bydd rhaid iddi gael ei chreu yn arbennig i ateb eich anghenion, ac mae'r broses hon yn debygol o gymryd tua phythefnos.
Gall defnyddwyr ffôn testun gysylltu â’r Gofrestrfa Tir ar rif ffôn di-dâl: 0800 0153552. Rydym yn tanysgrifio i Typetalk hefyd. |