Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae hawl gennych gael mynediad i wybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun. Mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i chi holi pa ddata gwybodaeth bersonol, os oes, sy'n cael ei ddal amdanoch chi'ch hun ar ffeiliau ar gyfrifiadur neu bapur. Os yw'r Gofrestrfa Tir yn cadw data personol amdanoch chi, mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi hawl i chi: · gael disgrifiad o'r data dan sylw · cael gwybod i ba bwrpas y mae'r data yn cael ei ddal a · chael gwybod am y derbynyddion (neu'r derbynyddion posib) y mae'r data yn cael ei ddatgelu iddynt.
Mae hawl gennych gael copi o'r data gydag unrhyw dermau annealladwy wedi'u hesbonio. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at Gyfarwyddyd Cyhoeddus Rhif 5.
Os hoffech wneud cais i gael mynediad i'ch data personol dylech ysgrifennu at y Gofrestrfa Tir yn y cyfeiriad canlynol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod "Cais Mynediad Gwrthrych". Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch amdanoch chi'ch hun er mwyn ein helpu ni i'ch helpu chi Swyddog Diogelu Data Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa Lincoln's Inn Fields Llundain WC2A 3PH
Caiff ceisiadau am fynediad i ddata personol eu trin yn brydlon, a chewch ymateb llawn cyn pen 40 diwrnod o dderbyn y cais. Gallwn godi tâl, ond ni fydd yn fwy na £10.
Os teimlwch na chafodd cais am fynediad i ddata personol ei drin yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998 gallwch gymryd camau pellach fel a ganlyn:
Gallwch ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth, a all wneud un o'r canlynol:-
(a) asesu a yw'n debygol neu'n annhebygol bod y Gofrestrfa Tir wedi cydymffurfio â Deddf 1998 (b) cymryd camau gorfodi os yw'n fodlon bod y Gofrestrfa Tir wedi gweithredu'n groes i un o Egwyddorion Gwarchod Data, (c) argymell eich bod yn gwneud cais i'r llys gan honni bod y Gofrestrfa Tir heb gydymffurfio â darpariaethau mynediad gwrthrych Deddf 1998.
– gallwch wneud cais i'r llys gan honni bod y Gofrestrfa Tir heb gydymffurfio â darpariaethau mynediad gwrthrych Deddf 1998. Gall y llys roi gorchymyn sy'n mynnu ein bod yn cydymffurfio â'r darpariaethau hynny a gall hefyd roi iawndal am unrhyw niwed a achoswyd o ganlyniad i hyn ac unrhyw ofid cysylltiedig. |