
Property Portfolio Consolidator
Mae'r Gwasanaeth Property Portfolio Consolidator (PPC) wedi'i gynllunio ar gyfer cwsmeriaid sydd am wella ansawdd y wybodaeth am eu stoc tai, gan eu helpu i reoli eu heiddo'n fwy effeithiol. Bydd y gwasanaeth o fudd i unrhyw fusnes sydd â diddordeb mawr mewn rheoli eiddo.
Mae prynu'r gwasanaeth PPC yn rhoi llawer o fanteision i chi.
- Cynyddu'r hyder yn eich gwybodaeth bortffolio
- Lleihau'r risg o weithredu twyll ar eich stoc
- Asesu eich potensial cyllid yn y dyfodol yn gywir
- Cynyddu effeithlonrwydd eich gwaith prosesu mewnol
- Helpu i flaenoriaethu eich eiddo sydd fwyaf 'mewn risg'
- Gwneud data yn fwy hygyrch a dealladwy i'ch staff.
Dadansoddi portffolio
Mae'r dadansoddiad dewisol hwn yn rhoi rhag-ddadansoddiad o'r holl deitlau cofrestredig lle y mae'r cwsmer yn berchennog neu'n arwystlai. Mae'n dangos cyfansymiau'r teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol llwyr, teitlau prydlesol da ac unrhyw deitlau meddiannol neu amodol. Yna mae'r Gofrestrfa Tir yn rhoi dyfynbris heb ymrwymiad ichi a fydd yn rhoi manteision y gwasanaeth llawn a restrir isod.
Gwasanaeth llawn
Ar ôl derbyn y dyfynbris, bydd y Gofrestrfa Tir yn:
- Rhoi pob cofrestr ar CD ynghyd â thaenlen sy'n amlinellu'r rhifau teitl, eiddo o fewn, deiliadaeth, manylion perchennog a manylion arwystl.
- Rhoddir teitlau meddiannol ac amodol ar dab gwahanol gyda'r dyddiad 'cofrestrwyd ar', gan amlygu'r cyfle i uwchraddio teitlau 'mewn risg'.
- Nodir unrhyw eiddo digofrestredig a gellir eu cofrestru o dan ein cynllun gwirfoddol.
- Gallwn roi cynrychiolaeth ddarluniadol o'r stoc ar ffurf electronig neu ar bapur.
Gwelliannau diweddar
Nawr rydym yn cynnig y rhesi ychwanegol canlynol o wybodaeth:
- Dyddiad cofrestrwyd ar (y dyddiad y crëwyd y cofnod perchennog cofrestredig presennol (B1) - Nawr gallwn gyflenwi'r wybodaeth ddiweddaraf am bris gwerth y farchnad llawn a dalwyd ar gyfer teitlau unigol a hyd yn oed data hanesyddol sy'n cynnwys yr holl wybodaeth farchnad lawn a gofnodir yn ôl i 1995.
- Yn ogystal, unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth llawn, gallwch gadw eich portffolio yn gyfredol gyda'n Gwasanaeth Diweddaru PPC, a lansiwyd yn ddiweddar, sy'n anfon adroddiadau chwarterol am:
- Deitlau a ychwanegwyd at eich stoc
- Teitlau a ddilëwyd
- Teitlau lle y cafwyd gweithgaredd pellach y dylech fod yn ymwybodol ohono.
Wyddech chi y gallwch ddiweddaru eich cofnodion gyda'n Gwasanaethau Monitro newydd?
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch â'n Tîm Add Value am ddim ar 0800 678 1678 neu trwy ebost.
