logo_w

Ymchwil yn dangos cefnogaeth ar gyfer cynigion pridiant tir

Mae ymchwil y farchnad gyda budd-ddeiliaid y llywodraeth a chwsmeriaid wedi dangos cefnogaeth sylweddol ar gyfer datblygu pridiannau tir lleol a gwybodaeth Con 29 gan y Gofrestrfa Tir.

Rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ehangu ein hystod o wasanaethau gwybodaeth i gynnwys chwiliadau o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gwybodaeth arall a gyflenwir gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd.

Mae'r cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth mewn perthynas â'r Grŵp Data Cyhoeddus yn atgyfnerthu'r buddion posibl ehangach o gyfuno gwahanol setiau o ddata. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r gwaith ymchwil fod angen ymchwilio i nifer o faterion er mwyn cadarnhau dichonoldeb y gwahanol opsiynau sydd ar gael i'r Gofrestrfa Tir cyn parhau ymhellach.

Caiff y gwaith o ddatblygu'r cynigion eu trafod gyda darpar bartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Unwaith i'r trafodaethau hyn ddirwyn i ben byddwn yn cyflwyno ein cynigion i weinidogion. Yna byddwn yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl.

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix