LR/OC12 24/02/2012
Y diweddaraf am gopïau swyddogol
O 5 Mawrth 2012, byddwn yn cyflwyno'r gwelliannau canlynol i'n porthol:
- Os na ellir cyflwyno cofrestr a/neu gynllun teitl yn electronig, caiff sgrîn ychwanegol ei harddangos lle y gallwch nodi nifer y copïau sydd eu hangen arnoch. Sylwer y codir ffi am bob copi a archebir.
- Bydd y system hefyd yn arddangos rhif teitl y prydlesai a'i arddangos fel ei fod ar gael ar unwaith, os oes copi electronig (wedi'i sganio) o'r brydles ar gael.
Diweddarwyd ein modiwl hyfforddiant How to request official copies i adlewyrchu'r gwelliannau hyn.
Gwneir y gwelliannau hyn yn ychwanegol i'r gwelliannau a wnaed i'r gwasanaeth porthol ‘Request Official copy’ym mis Medi 2011. O ganlyniad i'r gwelliannau hyn rydym yn rhyddhau 10,000 o geisiadau ychwanegol am gopïau swyddogol i'w llwytho i lawr yn lle eu cyflenwi drwy'r post, fel o'r blaen.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cyfathrebiad hwn, cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid trwy ebost yn customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu trwy ffonio 0844 892 1122, sydd ar gael rhwng 8am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


