Stori newyddion

Tynnu cyfarwyddiadau ysgrifenedig dethol yn ôl

Tynnu rhai o gyfarwyddiadau ymarfer y Gofrestrfa Tir yn ôl fel bod cyfarwyddyd y Gofrestrfa Tir yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddefnyddio.

Ar 1 Mehefin, byddwn yn tynnu rhai o’n cyfarwyddiadau ysgrifenedig o’n gwefan.

Wrth weithio i symleiddio ein gwasanaethau, rydym wedi ceisio datblygu arweiniad sy’n fwy hygyrch a haws ei ddefnyddio hefyd. Yn ddiweddar rydym wedi:

  • datblygu ein sianel YouTube er mwyn cynnig cyfoeth o diwtorialau a fideos cyfarwyddyd ynghylch ein E-wasanaethau busnes
  • darparu nifer o fodiwlau hyfforddi yn ein hadran Hyfforddiant i Gwsmeriaid
  • cynnwys arweiniad i gwsmeriaid yn y gwasanaethau eu hunain

Wrth gyflwyno cymaint o arweiniad newydd ar-lein, rydym wedi edrych i weld lle y mae rhywfaint o’n cyfarwyddiadau ysgrifenedig presennol wedi’u dyblygu mewn mannau eraill. Dyna’r rheswm dros benderfynu tynnu’r canlynol yn ôl.

Llawlyfr Technegol Rhan 2

Rydym wedi penderfynu tynnu’r llawlyfr hwn yn ôl oherwydd bod ffyrdd gweledol mwy hygyrch a hawdd eu defnyddio am sut i ddefnyddio’n gwasanaethau ar gael nawr. Yn ogystal, byddwn yn gwneud rhai mân newidiadau i’r Llawlyfr Technegol Rhan 1 er mwyn dileu cyfeiriadau at y Llawlyfr Technegol Rhannau 1 a 2. Bydd y llawlyfr unigol hwn yn disgrifio’r agweddau a’r gofynion technegol ar gyfer defnyddio ein E-wasanaethau busnes.

Ar yr un pryd byddwn yn dileu’r adran yn y Llawlyfr Technegol Rhan 1 sy’n cyfeirio at gyfrifon dinasyddion. Byddwn yn adfer yr adran pan fydd angen.

Byddwn yn diweddaru ein Côd Ymarfer hefyd. Mae hwn yn llywodraethu’r newidiadau rydym yn eu gwneud i’r Cytundeb Mynediad i’r Rhwydwaith a’r Llawlyfr Technegol. Byddwn yn newid y Côd Ymarfer fel ei fod yn cyfeirio at y Llawlyfr Technegol unigol.

Ni fyddwn yn ymgynghori ynghylch y newidiadau gan nad ydym yn newid hanfod y côd.

Cyfarwyddiadau Ymarfer

Yn ogystal, byddwn yn tynnu’r cyfarwyddiadau ymarfer canlynol yn ôl:

Cyfarwyddyd ymarfer 45: derbyn ac ateb rhybuddion trwy ebost

Pan fyddwch yn derbyn rhybudd gennym trwy ebost rydym yn cynnwys yr holl gyfarwyddyd angenrheidiol ar gyfer ymateb.

Cyfarwyddyd ymarfer 46: ffurflenni’r Gofrestrfa Tir

Gallwch gael manylion llawn am ein ffurflenni ar ein tudalen ffurflenni.

Cyfarwyddyd ymarfer 51: ble i anfon ceisiadau papur

Gallwch ganfod ble y dylai cwsmeriaid anfon eu ceisiadau ar bapur ar ein tudalen Cysylltu â ni.

Cyfarwyddyd ymarfer 59: derbyn ac ateb ymholiadau trwy ebost

Pan fyddwch yn derbyn ymholiad gennym, rydym yn darparu arweiniad priodol gyda’r cais am sut i ymateb.

Cyfarwyddyd ymarfer 71: gwasanaethau electronig

Gallwch gael manylion llawn am ein gwasanaethau electronig ar dudalennau e-Wasanaethau Busnes ein gwefan.

Cymorth pellach

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, gallwch gysylltu â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.

Yn ogystal, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys ein ffrwd cymorth technegol ar Twitter.

Cyhoeddwyd ar 1 June 2014