|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Ein cwsmeriaidMae sylfaen cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir yn ehangu wrth i wasanaethau newydd gael eu cyflwyno i farchnad ehangach. Mae ein cwsmeriaid craidd yn parhau yr un fath, sef cyfreithwyr, trawsgludwyr a rhoddwyr benthyg sy'n defnyddio ein gwasanaethau cofrestru yn gyson. Mae busnesau a sefydliadau masnachol eraill yn cael eu denu drwy ddatblygiad e-drawsgludo a'n gwasanaethau masnachol newydd, tra bo nifer cynyddol o'r cyhoedd yn dod i gysylltiad uniongyrchol â'r Gofrestrfa Tir drwy ein gwefannau a'n hymgyrchoedd. Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'n cwsmeriaid drwy ddatblygu dull segmentu sy'n cynnig modd i ni ateb eu hanghenion yn well. Drwy wneud hynny, rydym yn adeiladu ar hanes o wasanaeth cwsmeriaid y gallwn ymfalchïo ynddo. Mae ein harolwg cwsmeriaid 2006 yn dweud wrthym fod bron 99 y cant o'n cwsmeriaid yn fodlon â'r Gofrestrfa Tir, ac mae ein harchwiliwr cwynion, yr Adolygydd Cwynion Annibynnol, wedi canmol ein hymateb rhagweithiol i bryderon cwsmeriaid. Wrth i ni ddatblygu gwasanaethau newydd rydym hefyd wedi datblygu ffyrdd newydd o gyfathrebu â'n cwsmeriaid. Mae grwpiau ffocws a pholau piniwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu hymatebion i'r hyn a gynigiwn a'r hyn y bwriadwn ei gynnig. Cynigiwn hyfforddiant i gwsmeriaid yn ein swyddfeydd lleol a thrwy'r Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir. Yn gynnar yn 2006 roedd ein tîm datblygu'r gofrestr wedi cynnal rhaglen o ymweliadau â digwyddiadau cefn gwlad rhanbarthol i hybu cofrestru gwirfoddol. Ac, ym mis Mai 2006, yn y BBC Good Homes Show yn Birmingham, aethpwyd â'n neges yn uniongyrchol i drawstoriad eang o'r cyhoedd. |
||||||||