|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Unioni pethauMae cwynion yn agwedd bwysig ar adborth cwsmeriaid oherwydd gallant nodi bylchau neu ddiffygion yn y gwasanaeth ac arwain at welliannau. Gall cwsmeriaid gwyno ar-lein, yn bersonol, dros y ffôn neu drwy lythyr (gan gynnwys ffacs ac e-bost). Hefyd mae rhif rhadffôn i gysylltu â Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir Mae cwsmeriaid yn cael gwybod am y gwelliannau a wneir mewn ymateb i gwynion naill ai'n uniongyrchol neu drwy ein cylchlythyr cwsmeriaid, Landnet. Mae gwybodaeth am welliannau hefyd yn cael ei chyhoeddi yn yr adroddiad byr ar ein harolwg bodlonrwydd cwsmeriaid blynyddol. Yn 2006/7, derbyniwyd 2,589 o gwynion (4 y cant yn fwy nag yn 2005/6), ac o'r rhain ymatebwyd i 88 y cant o fewn ein targed o bum niwrnod (o'i gymharu â 91 y cant yn 2005/6). Mae'r Adolygydd Cwynion Annibynnol (ACA) yn cynnal ymchwiliadau amhleidiol i gwynion gan gwsmeriaid sy'n anfodlon â'r gwasanaeth a gawsant gan y Gofrestrfa Tir ac sydd heb gael eu bodloni gan ein trefn gwyno fewnol. Mae nifer yr achosion sy'n arwain at ymchwiliadau ffurfiol gan yr ACA yn parhau ar lefel isel ac, o'r ychydig gwynion hynny sy'n cael eu hymchwilio, dim ond dyrnaid sydd wedi cael eu cymeradwyo. |
|||||||||||||