Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaeth achos 5 Contents Previous Next

Monica Skelton, Arweinydd Tîm, Swyddfa Durham (Boldon)

Fel arweinydd tîm rwy'n gyfrifol am ddatblygu aelodau tîm ac ansawdd ein cynnyrch, yn ogystal â chyflawni ein dangosyddion perfformiad. I'r diben hwn yn ystod 2006/7 rwyf wedi gwella'r broses archwilio o fewn fy nhîm mewn meysydd fel gohebu â chwsmeriaid, ansawdd gwaith cais a chyflymder gwasanaeth.

Rwy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu fy staff a fi fy hun. Bydd cynyddu ein galluoedd a'n hyder yn eu tro yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gwaith a gynhyrchiwn. Yn ddiweddar rwyf wedi neilltuo 'cyfaill' uwch i bob aelod tîm, sydd wedi gwella'r wybodaeth dechnegol o fewn fy nhîm.

Mynychais weithdai i arweinwyr tîm lle buom yn dyfeisio model a oedd yn amlygu'r nodweddion (ymagweddau ac ymddygiad) y mae eu hangen ar arweinydd i lwyddo. Cynhaliwyd rhai ymarferion datrys problemau hefyd. Rwyf wedi trosglwyddo'r arferion gorau i'm tîm - ac mae'r cyfan yn gwella'r gwasanaeth a ddarparwn i'n cwsmeriaid.