Adolygiad ar-lein 2006/7
Astudiaeth achos 6
Linda Chamberlain, Pennaeth y Grŵp Addysg a Hyfforddiant
Drwy gydweithio â grŵp ffocws sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r 30 o ddarparwyr cyrsiau arferion cyfreithiol dros y 18 mis diwethaf, mae'r GAH wedi datblygu pecyn hyfforddi ar-lein i'w ddefnyddio fel rhan o'r cwrs arferion cyfreithiol yn ystod y flwyddyn academaidd 2007/8.
Mae'r pecyn hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio yn eu hamser eu hunain drwy sawl modiwl sy'n esbonio sut mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu, sut i ddehongli cofnodion ar y gofrestr, sut mae cynlluniau teitl yn cael eu creu, eu defnyddio a'u dehongli a sut mae modd defnyddio adnoddau gwefan y Gofrestrfa Tir a gwasanaethau cofrestru tir ar-lein yn effeithiol. Bydd yn cymryd tua chwe awr i fyfyrwyr gwblhau'r deunyddiau. Maen nhw wedi'u llunio a'u creu'n benodol at ddefnydd y darparwyr, felly dylai fod modd eu hintegreiddio i'r deunyddiau cwrs ehangach.
Y nod yw rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn arferion cofrestru tir sylfaenol ac ymwybyddiaeth o sut i weithio'n effeithiol gyda'r Gofrestrfa Tir o'r dechrau. Dylai hyn hwyluso dealltwriaeth fwy cyson o weithdrefnau sylfaenol y Gofrestrfa Tir ymysg y rhai sy'n dechrau gweithio i gwmnïau'r gyfraith a darparu llwyfan i'r GAH i greu deunyddiau yn y dyfodol sy'n adeiladu ar wybodaeth ymarferyddion newydd wrth i'w harbenigedd ddatblygu.