|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Addysg a hyfforddiantMae Grŵp Addysg a Hyfforddiant (GAH) y Gofrestrfa Tir wedi parhau i gydweithio â swyddfeydd lleol i gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb rhad ac am ddim i gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr ar bynciau cofrestru tir allweddol. Bwriad y digwyddiadau hyfforddi generig hyn yw lleihau nifer yr ymholiadau y mae angen i gwsmeriaid eu gwneud yn eu gwaith bob dydd a'u helpu i gyflwyno ceisiadau sy'n gywir y tro cyntaf. Mae'r GAH hefyd wedi creu a chyflwyno hyfforddiant cwsmeriaid ar gyfer defnyddwyr prototeip y Gadwyn Matrics e-drawsgludo i roi'r hyder iddynt yn y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio a'u helpu i gynnwys y nifer mwyaf posibl o drafodion ar y system. Crëwyd taith ar-lein o'r Gadwyn Matrics drwy ddefnyddio meddalwedd ac mae modd ei gweld ar dudalennu addysg a hyfforddiant gwefan y Gofrestrfa Tir. Drwy gydweithio'n agos â thîm achredu Cymdeithas y Gyfraith, mae'r GAH wedi creu pecyn hyfforddi ar-lein cyntaf y Gofrestrfa Tir i gwsmeriaid ar hawddfreintiau ac wedi derbyn achrediad gan Gymdeithas y Gyfraith ar gyfer ei ddeunydd dysgu o bell yn ogystal â'i weithgaredd wyneb yn wyneb. Hefyd, mae wedi'i awdurdodi i ddarparu hyfforddiant wedi'i achredu gan Gyngor y Bar, Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig. Drwy weithio â chynrychiolwyr cwsmeriaid, mae'r GAH wedi cael gwybodaeth werthfawr am anghenion hyfforddi penodol grwpiau cwsmeriaid amrywiol. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, mae'r GAH wedi adeiladu elfennau cyntaf portffolio o ddeunyddiau hyfforddi wyneb yn wyneb ac ar-lein ychwanegol. Bydd y deunyddiau a digwyddiadau hyn yn cael eu cynnig cyn bo hir i gwsmeriaid yn ogystal â'r rhaglen am ddim bresennol naill ai am gost gystadleuol, fel estyniad o weithgareddau arferol y Gofrestrfa Tir, neu'n ddi-dâl. |
||||||||