www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Gwybodaeth a dewis Contents Previous Next

    Gwybodaeth a dewis

    Mae ystod gynhwysfawr o wybodaeth ymarferol am ein gwasanaethau a gweithdrefnau ar gael ym mhob un o'n canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid. Mae cyhoeddiadau a ffurflenni cofrestru tir ar gael i'w llwytho i lawr yn rhad ac am ddim o'n gwefan (www.cofrestrfatir.gov.uk), a hefyd pob un o'r ffurflenni swyddogol y mae eu hangen i gyflwyno ceisiadau cofrestru tir. Yn ystod 2006, roedd y Gofrestrfa Tir wedi derbyn 78 cais ysgrifenedig am wybodaeth a gafodd eu gwneud o dan ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

    Rydym yn derbyn ceisiadau ac ymholiadau  gan amryw o gyrff ac yn uniongyrchol gan y cyhoedd, yn ogystal â'r proffesiwn cyfreithiol a sefydliadau ariannol. Cydnabyddwn fod ein cwsmeriaid yn cynnwys pawb sy'n cael eu heffeithio gan ein gwaith. Gallant gysylltu â ni yn bersonol, dros y ffôn, drwy'r ffacs, ebost a'r post. Gall cwsmeriaid proffesiynol sydd â chyfrifon credyd gael ein gwasanaethau electronig trwy'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol a thrwy'r Gwasanaethau Ffôn. Gall y cyhoedd wneud hyn trwy'r Gofrestr Tir Ar-lein.

    Mae pob Canolfan Gwybodaeth Cwsmeriaid yn cael ei harchwilio ar gyfer hygyrchedd. Rydym yn cadw rhestr o aelodau staff sy'n gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a darparwn gyfleuster ffôn testun. Gallwn ddarparu dogfennau a chyfarwyddyd mewn amryw o fformatau a defnyddiwn ein holiadur adborth cwsmeriaid i asesu'r galw am wybodaeth mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg.