www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Gwella ein cynnyrch Contents Previous Next

    Gwella ein cynnyrch

    Mae'n amlwg bod cwsmeriaid o'r farn bod ansawdd cynnyrch y Gofrestrfa Tir yn dda, fel y dangosir gan adborth yr arolwg cwsmeriaid a'n cyfraddau cywirdeb da. Rydym bob amser yn awyddus i weithredu mesurau ychwanegol i wella ansawdd y data sydd gennym yn barhaus

    Cynhaliwyd Adolygiad Ansawdd Cynnyrch yn ystod 2006 gan ddefnyddio swm mawr o ddata a gasglwyd o amryw o ffynonellau. Mae cynllun gweithredu o'r adolygiad yn tynnu sylw at ble y gallwn fuddsoddi yn ein systemau cyfredol a hefyd datblygu rhai newydd i helpu gwella a chynnal ansawdd. Mae archwilio ac ailddiffinio prosesau a dulliau cyfathrebu hefyd yn helpu i wella ansawdd y cynnyrch terfynol i'n cwsmeriaid.

    Mae nifer o'r camau yn y cynllun yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu pobl y Gofrestrfa Tir megis gweithdai i arweinwyr tîm, hyrwyddwyr arolygu tir a mapio, cynllunio ar gyfer pontio o lwybrau hyfforddi, hyfforddiant ar wybodaeth ddaearyddol ac ati.

    Bydd y Gofrestrfa Tir yn gallu defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r mentrau niferus hyn i asesu'r gwelliannau a wnaed mewn ansawdd, ac ar yr un pryd cynnal ein safonau gwasanaeth cwsmeriaid uchel iawn a rhagori ar ein dangosyddion perfformiad allweddol.