Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Adoygiad blynyddol 2006/7 Segmentu cwsmeriaid Contents Previous Next

Segmentu cwsmeriaid

Rydym wedi cynnal paneli defnyddwyr cenedlaethol ers sawl blwyddyn bellach ond rydym bob amser wedi cymysgu ystod eang o gwsmeriaid. Y nod oedd cadarnhau ein barn am ein perfformiad a gwasanaethau ac, ar yr un pryd, 'treialu' ein syniadau newydd ar draws ein sylfaen cwsmeriaid a chael adborth gwerthfawr cyn eu rhyddhau.

Yr un fu'r nod y flwyddyn hon ond rydym wedi dechrau segmentu cwsmeriaid, fel bod cwsmeriaid tebyg, o'r un meddwl yn dod ynghyd ac yn gallu rhoi barn llawer mwy canolbwyntiedig i ni. Bu'r fenter hon yn ddefnyddiol ac yn llwyddiannus iawn. Er enghraifft, mae gan grwpiau o roddwyr benthyg, cwmnïau trawsgludo mawr a chyfreithwyr ar y stryd fawr farn a diddordebau gwahanol a bu modd i ni geisio'r barnau hynny ac ymateb iddynt yn well.

Bwriadwn ddatblygu hyn ymhellach yn 2007 drwy symud i ddulliau mwy ansoddol o ymchwil cwsmeriaid - symud i ffwrdd o'n harolwg blynyddol un maint i bawb. Mae'r cyfan yn rhan o'n hymgyrch i fod yn fwy ymatebol i'r hyn y mae angen i ni ei ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid.