www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Gwasanaeth Cymraeg Contents Previous Next

    Gwasanaeth Cymraeg

    Mae'r Gofrestrfa Tir yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a bydd yn gohebu fel y bo'n briodol. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg i lythyrau a dderbynnir yn Gymraeg ac yn cwrdd â'r un targedau cyflymder gwasanaeth ar gyfer gohebiaeth. Mae gohebiaeth drwy'r ffacs neu ddulliau electronig yn cael ei thrin yn yr un modd. Mae ein gwefan yn ddwyieithog, a gellir cyrchu'r safle Cymraeg drwy www.cofrestrfatir.gov.uk.

    Cynigiwn wasanaeth Cymraeg dros y ffôn ac mewn rhai canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid a gwasanaeth ffôn. Ein nod yw darparu'r un safon gwasanaeth o ansawdd uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg.

    Mae templed pob cofrestr sy'n cael ei chynhyrchu yn Swyddfa Cymru yn cael ei argraffu'n ddwyieithog. Mae pob pennawd a gwybodaeth safonol ar gofrestri teitl yng Nghymru yn ymddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cofnodion unigol yn ymddangos yn iaith y ddogfen wreiddiol y maent wedi'u seilio arni.