www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Rhagair Contents Previous Next

    Rhagair gan y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

    Bu hon yn flwyddyn gyffrous i'r Gofrestrfa Tir, nid lleiaf oherwydd ein bod wedi cyhoeddi ein Glasbrint. Mae'r weledigaeth ynddo yn disgrifio sut y bydd y Gofrestrfa Tir yn edrych erbyn canol y degawd nesaf.

    Wrth wraidd ein Glasbrint yw Cofrestrfa Tir sy'n canolbwyntio mwy byth ar anghenion ei chwsmeriaid, gan deilwra ei gwasanaethau i'w gofynion arbennig.Yn 2006/7 cymerwyd camau sylweddol i'r cyfeiriad hwn drwy ddatblygu a marchnata ystod o wasanaethau masnachol a lansio ein Mynegai Prisiau Tai newydd.

    Yn 2007/8 byddwn yn parhau i ddatblygu'r rhain a gwasanaethau newydd eraill ond ein busnes craidd fydd ein blaenoriaeth bennaf o hyd.

    Mae’n llwyth gwaith yn parhau i gynyddu ond rydym wedi ymdrin ag ef yn gyflym, yn gywir ac yn effeithlon. Yn ogystal, rydym wedi cynyddu'r Gofrestr Tir i gwmpasu 59 y cant o Gymru a Lloegr trwy ein hymgyrch i hyrwyddo cofrestru gwirfoddol.

    Mae ein rhaglen trawsgludo electronig wedi symud ymlaen i lansio'r prototeip o'r gwasanaeth Cadwyn Matrics ym Mawrth 2007. Byddwn yn cymryd camau pellach yn 2007/8.

    Ni fyddem yn gallu cyflawni hyn oll heb ein gweithlu ymroddedig a dawnus.Rydym yn hynod falch o'r gwasanaeth a ddarparwn a byddwn yn ceisio gwneud hyd yn oed yn well yn 2007/8.

    Peter Collis
    Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr