www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Ein dyfodol Contents Previous Next

    Ein dyfodol

    Yn yr hydref cyhoeddwyd ein Glasbrint sefydliadol. Rhoddodd hwn drosolwg cynhwysfawr i staff o'r newidiadau a ragwelwn dros y 10 mlynedd nesaf, y syniadau y tu ôl iddynt a sut y bwriadwn eu cyflwyno a'u rheoli. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd adolygiad o'n hystad gyda chynigion i gau dwy swyddfa ac uno pum pâr o swyddfeydd cyfagos.

    Yn 2007/8 byddwn yn parhau i weithredu amrywiaeth o fentrau sy'n bwriadu ein helpu i weinyddu ein busnes yn well byth yn y dyfodol. Mae ein System Gwybodaeth Busnes wedi'i sefydlu erbyn hyn, a byddwn yn hapus i'w darparu fel gwasanaeth i sefydliadau eraill. Mae ein Tîm Archwilio Mewnol eisoes yn darparu gwasanaeth archwilio mewnol i gorff llywodraethol arall ac rydym yn awyddus i gefnogi agenda cydwasanaethau'r Llywodraeth os oes modd.

    Rhagwelwn ddyfodol cyffrous i'n sefydliad a'n staff, wedi'i seilio ar y nifer gynyddol o wasanaethau a gynigiwn a'r cwsmeriaid a wasanaethwn. Bydd ein hincwm a'n perfformiad bob amser yn cael eu dylanwadu gan gyflwr y farchnad eiddo ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer diwedd y ffyniant hir cyfredol - ond hefyd fod yn barod ar gyfer ei barhad.