www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Uchafbwyntiau Contents Previous Next

    Uchafbwyntiau 2006/7

    Dan ei sang
    Derbyniwyd 34,448,431 o geisiadau yn ystod y flwyddyn, sy’n fwy nag erioed o’r blaen.

    Cadw pawb yn hapus
    Mae canran y cwsmeriaid sy'n fodlon iawn neu'n fodlon â'n hamrywiaeth lawn o wasanaethau yn 98.6 y cant.

    Y pris cywir
    Lansiwyd Mynegai Prisiau Tai newydd y Gofrestrfa Tir ym mis Hydref. Mae'r mynegai a'i ganfyddiadau wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau.

    Mynd yn wyrdd
    Ailgadarnhawyd tystysgrif ISO 14001 y Gofrestrfa Tir ym mis Chwefror ar ôl archwiliad allanol, sy'n dangos ein bod yn bodloni safonau amgylcheddol rhyngwladol.

    Iechyd da
    Dechreuodd cyfres o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd ar draws y sefydliad yn yr haf gyda'r ffocws ar galonnau iach.

    Ystyrlon o blant
    Agorwyd Meithrinfa Ddydd Westbridge yn Swyddfa Caerlŷr gan weinidog yr Adran Materion Cyfansoddiadol, y Farwnes Ashton o Upholland ym mis Hydref.

    Cofrestrwch yma
    Diolch i rwydweithio swyddfa leol ac ymgyrch ranbarthol yn y cyfryngau ychwanegwyd mwy na 700,000 hectar i gyfanswm arwynebedd tir rhydd-ddaliad cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

    Anrhydedd mawr
    Cydnabuwyd bron 40 blynedd o wasanaeth i'r Gofrestrfa Tir pan dderbyniodd Gordon Vickers OBE gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham.

    Dwylo diogel
    Cyrhaeddwyd carreg filltir yn natblygiad e-drawsgludo pan roddodd y Gofrestrfa Tir y contract ar gyfer sicrhau diogelwch y system electronig i IBM a lansiwyd y prototeip o'r Gadwyn Matrics ar-lein.

    Tic i gydraddoldeb
    Ailgadarnhawyd dyfarniad symbol anabledd Tic Dwbl i'r Gofrestrfa Tir ar ôl adolygiad gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan ddangos ein hymrwymiad i recriwtio, cadw, hyfforddi a datblygu gyrfa staff anabl.

    Bywyd a gwaith
    Yn ddiweddar mae Systemau Gwybodaeth wedi cael eu cynnwys yng nghanllaw newydd Top IT Employers in the UK a derbyniwyd nod barcud Cyflogwr Cymeradwy Platinwm ar gyfer Datblygu Hyfforddeion gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

    Diolch, weinidog
    "Mae'r Gofrestrfa Tir yn sefydliad mor ddeinamig". Dyna ddisgrifiad Vera Baird QC, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Materion Cyfansoddiadol, ar ôl derbyn cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y Gofrestrfa Tir ym mis Ionawr 2007.