www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Ynglŷn â'r Gofrestrfa Tir Contents Previous Next

    Ynglŷn â'r Gofrestrfa Tir

    Crëwyd y Gofrestrfa Tir fel adran ar wahân o'r llywodraeth ym 1862 ac fe'i gwnaethpwyd yn asiantaeth weithredol ar 2 Gorffennaf 1990 ac yn gronfa fasnachu ar 1 Ebrill 1993.Y Prif Gofrestrydd Tir yw Pennaeth yr Adran, Swyddog Cyfrifyddu llawn a Phrif Weithredwr yr asiantaeth weithredol.Mae'n ddeiliad swydd statudol ac yn gyfrifol am weinyddu'r holl fusnes o gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr. Mae'n adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a'r Arglwydd Ganghellor.

    Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu trwy 24 swyddfa a leolir ar hyd a lled Cymru a Lloegr, Prif Swyddfa yn Llundain, a swyddfeydd yn Plymouth sy'n gartref i'r adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol a'n Cyfarwyddiaeth Systemau Gwybodaeth.

    Mae'r Gofrestr Tir, sy'n cynnwys mwy nag 21 miliwn o deitlau, wedi bod ar gael i'r cyhoedd ei gweld ers Rhagfyr 1990.

    Ein prif amcanion yw:

    • cynnal a datblygu system gofrestru tir sefydlog ac effeithiol yng Nghymru a Lloegr fel y conglfaen ar gyfer creu buddion mewn tir a symudiad rhydd y buddion hynny
    • ar ran y Goron, gwarantu teitl i ystadau cofrestredig a buddion mewn tir yng Nghymru a Lloegr
    • darparu mynediad rhwydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a gwarantedig am dir, gan sicrhau deliadau hyderus mewn eiddo a gwarant teitl
    • darparu gwasanaeth Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.