Yn ôl i'r hafan I'r wefan Saesneg
Prisiau tai
Cofrestrwch eich tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Ewch i Gwasanaethau Add Value
Ewch i Siarter gwybodaeth
Ewch i Cynlluiau cyhoeddiadau

Adoygiad blynyddol 2006/7 Ein sefydliad Contents Previous Next

Ein sefydliad

Am y rhan fwyaf o'i hanes bu'r Gofrestrfa Tir yn ymroddedig i'r dasg hanfodol o brosesu cofrestriadau.Ond mae'r oes yn newid. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cofrestru o'r radd flaenaf ond rydym hefyd yn ceisio dyblu nifer y gwasanaethau a gynigiwn erbyn diwedd y degawd nesaf.O ganlyniad byddwn yn ehangu'n fawr y nifer a'r math o gwsmeriaid a wasanaethwn. Bydd rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy rhagweithiol, ystyriol o'r cwsmer ac anelu'n uwch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dangos ein bod yn symud tuag at y math o sefydliad hyblyg, eang ei orwelion sydd gennym mewn golwg. Mae ein strwythur bwrdd newydd a chreu'r Grŵp Marchnata a Gwerthiannau yn dyst i'n hymagwedd symlach a modern. Mae ein perfformiad amgylcheddol a'n haelodaeth o Fusnes yn y Gymuned yn dangos ein pryder dros ein heffaith ar y byd ehangach, ac mae ein Huned Ryngwladol yn parhau i gynnig ein harbenigedd i genhedloedd sy'n datblygu.