www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Cyfrifoldeb corfforaethol Contents Previous Next

    Cyfrifoldeb corfforaethol

    Yn 2007 ymunodd y Gofrestrfa Tir â Busnes yn y Gymuned, sy'n cynnwys mwy na 700 o brif gwmnïau'r DU sy'n ymroddedig i wella eu heffaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae trafodaethau helaeth â Busnes yn y Gymuned wedi arwain at baratoi ein cynllun gweithredu ein hunain.

    Dyfarnwyd y Nod Siarter am y pumed tro yn olynol yn 2004.Yn ystod asesiad interim yn 2005 roedd aseswyr annibynnol wedi ystyried tystiolaeth o welliant parhaus sy'n dangos bod ein gwasanaeth yn parhau i fodloni safon y Nod Siarter, yn arbennig o ran amrywiaeth a'n gwaith gyda chymunedau lleol.

    Mae ein cynllun gweithredu datblygu cynaliadwy yn ein hymrwymo i'r defnydd cyfrifol o adnoddau cyfyngedig, gwarchod a gwella'r amgylchedd, cynhwysiant cymdeithasol a thwf economaidd-gymdeithasol.

    Rydym yn gweithio tuag at leihau gollyngiadau carbon deuocsid gan 12.5 y cant erbyn Mawrth 2011.Yn yr un modd, rydym yn parhau i wneud cynnydd da i wella effeithlonrwydd ynni ein hadeiladau gan 15 y cant erbyn 2010. Mae'r ddau yn dargedau'r llywodraeth ganolog sy'n ymwneud â chynaladwyedd. Fe'u hasesir drwy fesur y defnydd o drydan a nwy yn erbyn nifer y metrau sgwâr.