www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaeth achos 1 Contents Previous Next

    Jon Llewellyn, Swyddfa Cymru

    Mae gweithio i Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir yn golygu eich bod yn cael eich herio'n gyson i gyflwyno diwygiadau arwyddocaol ar lefel genedlaethol.Yn 2006 bues yn gweithio yn Rwanda ar y Rhaglen Diwygio Tir Genedlaethol - fy nghenhadaeth oedd paratoi system gofrestru teitl gynhwysfawr a fyddai'n addas i'r wlad gyfan o dan Gyfraith Tir Organig Rwanda oedd newydd ei deddfu.

    Es i ati i greu deddf cofrestru teitl gynhwysfawr a oedd yn ceisio gwarchod hawliau tir dinasyddion a hybu cyfle economaidd a thwf yn Rwanda.Yna bues yn helpu'r llywodraeth i baratoi dogfen gais wedi'i chostio i'w chyflwyno i'r Cyfleuster Hinsawdd Buddsoddi ar gyfer Affrica oedd newydd ei ffurfio i gefnogi ei strategaeth diwygio busnes genedlaethol. Roedd y cais yn llwyddiannus, gan ddarparu cyllid ar gyfer cryfhau gweinyddu tir a datblygu busnes yn y wlad.

    Rwy'n gobeithio y bydd y Gofrestrfa Tir yn dychwelyd i Rwanda i barhau i annog a chynorthwyo datblygiad ei system gweinyddu tir newydd a helpu i warchod hawliau eiddo dinasyddion cyffredin.