www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Yr Uned Ryngwladol Contents Previous Next

    Yr Uned Rynglwadol

    Mae'r Uned Ryngwladol yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio'n effeithiol â'n rhwydwaith budd-ddeiliaid dramor, ein bod wedi ein cynrychioli ar fforymau rhyngwladol perthnasol a'n bod yn cyfrannu lle bo'n briodol at nodau strategol ehangach y Llywodraeth, gan gynnwys darparu arbenigedd y DU i wledydd sy'n datblygu.

    Yn ystod 2006/7 rydym wedi darparu cymorth, ymysg prosiectau eraill, i raglen Diogelwch, Cyfiawnder a Thwf Cyngor Prydain yn Nigeria, a ariannwyd gan yr Adran Datblygiad Rhyngwladol (ADRh). Yn Rwanda rydym wedi cynorthwyo prosiect a ariannwyd gan yr ADRh i helpu gweithredu cyfraith tir newydd ei deddfu ar gyfer cyfraith ac arferion cofrestru tir. Mewn partneriaeth â Chofrestri'r Alban, rydym wedi helpu'r Weriniaeth Slofac gyda phrosiect yr Undeb Ewropeaidd i wella effeithlonrwydd ei gwasanaethau cofrestru tir

    Yn ystod y flwyddyn gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr a groesawyd o dramor, gan ddarparu rhaglenni astudio pwrpasol i fodloni eu meysydd diddordeb arbennig, megis gwasanaeth cwsmeriaid neu e-drawsgludo. Mae ymweliadau o'r fath yn rhoi cyfle i ni rannu profiad ac arbenigedd, a meithrin perthynas â chydweithwyr dramor sy'n gweithio yn yr un maes.

    Y flwyddyn hon, rydym wedi croesawu ymweliadau astudio gan ein cymheiriaid a sefydliadau eraill ym Mwlgaria, Croatia, Ghana, Indonesia, Jamaica, Macedonia, Mongolia, Nigeria, Gwlad Pwyl, Ffederasiwn Rwsia, Sawdi Arabia, yr Alban, Sierra Leone, Singapore, De Korea a Gwlad Thai.