www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Ein pobl Contents Previous Next

    Ein pobl

    Mae gweithlu'r Gofrestrfa Tir sydd â rhyw 8,600 o staff yn fwyfwy amrywiol ac wedi'i seilio ar graidd o weithwyr â gwasanaeth hir. Mae ein hanes hir yn golygu bod traddodiadau gennym sy'n uno'r sefydliad tra bo'r strwythur swyddfa yn caniatáu i hunaniaethau lleol ffynnu. Mae oriau gwaith hyblyg, arferion Adnoddau Dynol arloesol ac amrywiaeth gynyddol o rolau i gyd yn gwneud ein sefydliad yn ddewis deniadol i staff presennol a staff newydd.

    Mae hyfforddiant a datblygiad yn brif flaenoriaethau, gyda rhaglen sgiliau TG gynhwysfawr, cyrsiau fel y Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir a chynlluniau datblygu fel Rhaglen Datblygu Arweinwyr y Dyfodol. Mae cyrff allanol hefyd wedi cydnabod ein cymorth i staff sy'n ennill cymwysterau arbenigol. Dyfarnwyd statws Cyflogwr Cymeradwy Platinwm ar gyfer Datblygu Hyfforddeion i'r Gofrestrfa Tir gan Gmdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig .

    Mae ein hymgyrchoedd iechyd ar draws y sefydliad yn dangos ein bod yn pryderu am lawer mwy na gwneud y gwaith. Ac rydym bob amser yn ceisio gwella cyfathrebu ym mhob cyfeiriad, drwy ymweliadau gan gyfarwyddwyr, cylchlythyron, DVD a'r rhyngrwyd, er mwyn i staff ddeall pam bod penderfyniadau'n cael eu gwneud.