Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaethau achos Contents Previous Next

Astudiaethau achos

Julie Wright,  Swyddfa Durham (Boldon)
Mae dilyn y diploma wedi bod yn wych i mi. Bu'n waith caled ond rwyf wirioneddol wedi ei fwynhau. Heb y cwrs hwn fyddai ddim llawer o syniad gyda fi am y gwaith nad wyf yn ymwneud ag ef. Rwy'n delio ag ymholiadau cyffredinol ac mae fy astudiaethau wedi gwneud fy ngwaith cymaint yn haws.Galla i wneud fy swydd gyda llawer mwy o hyder nawr.Roedd yn her dda.

Sheila Bryan, Rheolwr Tîm yn y Ganolfan Gwasanaeth Morgeisi
Doedd dim cymwysterau cyfreithiol gan y rhan fwyaf ohonom felly y teimlad oedd ei fod yn briodol i ni fel cwrs sylfaen. Pan fyddwn yn cofrestru arwystl rhaid i ni wybod beth yw logisteg y peth. Mae'r cwrs 'ma wedi rhoi gwybodaeth fanwl i ni o'r hyn y mae ei angen i gyflwyno ein gwasanaethau i'n cwsmeriaid.

Christine Bissett o adran y gyfraith Cyngor Bwrdeistref Test Valley
Roeddwn i braidd yn rhydlyd â dweud y lleiaf (ar ôl toriad gyrfa). Doeddwn i ddim yn gwneud gwaith trawsgludo pan ddaeth Deddf 2002 i rym felly roedd rhaid i mi ailddysgu popeth roeddwn i erioed yn ei wybod. Roedd y cwrs yn hollol berthnasol i'r gwaith rwy'n ei wneud. Roeddwn i wedi delio â thir cofrestredig o'r blaen ond roedd pethau wedi newid. Dyna lle roedd y cwrs mor ddefnyddiol i mi.