|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Nicky Heathcote, MCC, Swyddfa TelfordYmunais â'r Gofrestrfa Tir ym 1988 fel gweithiwr cais ac rwy'n dal i weithio yn fy swyddfa leol, ac yn ddiweddar cefais fy mhenodi fel Swyddog Cyswllt Gofal Plant. Ymunais i â'r rhaglen MCC ym mis Hydref 2006, oherwydd roeddwn i eisiau wynebu sialensiau newydd a gweld y darlun mawr. Dyw fy nhraed heb gyffwrdd â'r ddaear ers hynny! Rwyf wedi cysgodi’r Rheolwr Newid Busnes a Phennaeth Marchnata a Chyfathrebu, wedi cwblhau adolygiad gofal plant cenedlaethol, wedi cymryd rhan mewn fforwm arweinyddiaeth sy'n ystyried gwasanaethau seiliedig ar y we a chael secondiad i'r Grŵp Strategaeth fel Cydlynydd Cynllunio Busnes. Rwyf wedi cael cipolwg gwych ar amcanion strategol a thrawsffurfiad y Gofrestrfa Tir. Mae gweld uwch reolwyr yn gwneud penderfyniadau wedi cynnig modd i mi ymestyn fy meddwl strategol a'i gymhwyso i feysydd fel yr adolygiad gofal plant. Roedd y fforwm arweinyddiaeth wedi agor y drws i'r byd anghyfarwydd o wasanaethau masnachol a gwerthiannau data i mi. Yn fy swydd bresennol rwyf wedi drafftio Cynllun Busnes Corfforaethol 2007/8 ac wedi paratoi ar y cyd gyflwyniad i'r Prif Weithredwr ei gyflwyno yng nghynhadledd yn Munich, yn ogystal â helpu i gynhyrchu’r adroddiad hwn. |
||||||||