Adoygiad blynyddol 2006/7
Astudiaeth achos 9
Mina Demaris, SARh a MCLl, Swyddfa Plymouth
Ar hyn o bryd rwyf ar ail flwyddyn y MCLl. Mae'r cynllun wedi bod yn heriol ac yn fuddiol o ran fy natblygiad. I gael y mwyaf o'r rhaglen, mae fy nghynllun gweithredu personol yn allweddol wrth geisio cyfleoedd datblygu ac mae Arweinwyr y Dyfodol wedi cynyddu fy ngwerthfawrogiad a'm dealltwriaeth o'm hanghenion yn y dyfodol.
Bues yn gweithio ar strategaeth amrywiaeth y Gofrestrfa Tir, gan lunio cynllun gweithredu yn unol â deddfwriaeth ddiweddar. Rwyf wedi cwblhau'r cyflwyniad ar y cwrs SARh a mynychu gweithdai ychwanegol sy'n canolbwyntio ar feysydd datblygu penodol, gan weithredu'r sgiliau hyn yn fy ngwaith bob dydd.
Rwyf wedi mynychu digwyddiadau rhwydweithio, a fu'n ddefnyddiol ar gyfer meincnodi a dysgu oddi wrth eraill, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy'n benodol i'm hanghenion a chael profiad ehangach o'r Gofrestrfa Tir. I gael y mwyaf o Arweinwyr y Dyfodol, mae'n rhaid i chi fod yn barod i fentro allan o'ch amgylchedd cysurus. Bu'n rhaglen heriol mewn sawl agwedd ond bu'r elfennau cadarnhaol yn llawer mwy na'r elfennau negyddol.