Adoygiad blynyddol 2006/7
Amrywiaeth a chyfle cyfartal
Amrywiaeth a chyfle cyfartal
Ym mis Rhagfyr 2006 cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Anabledd ac erbyn hyn rydym yn gweithio gyda'n Grŵp Ffocws Lesbiaid, Hoywon, Deuryw a Thrawsrywiol (LHDTh) i gyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl. Mae hyn yn cwmpasu pob llinyn o amrywiaeth ac yn rhagori ar ein dyletswydd statudol i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol erbyn 30 Ebrill 2007.
Mae gwaith yn parhau i sefydlu Grŵp Ffocws Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn ogystal â'n grwpiau ffocws anabledd a LHDTh. Ar ôl ymuno â Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall a gwneud cais am Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall i feincnodi ein perfformiad, mae'r adborth yn dangos ein bod wedi creu gwelliant cyffredinol yn ein perfformiad o 14 y cant ers y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ein hymateb swyddogol cyntaf i Gynllun 10 Pwynt y Gwasanaeth Sifil ar amrywiaeth wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar ac rydym yn parhau i fonitro ein cynnydd i gyrraedd pob targed. Datblygwyd y cynllun yn dilyn adolygiad o gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn cyflogaeth yn y Gwasanaeth Sifil gan y Prif Ymgynghorydd Amrywiaeth i'r Gwasanaeth Sifil. Nod y cynllun yw gwella cyflwyno gwasanaethau i bawb yn y gymdeithas drwy gael gweithlu Gwasanaeth Sifil gwirioneddol amrywiol ar bob lefel, gan gynnwys ein gweithwyr uwch.