www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Iechyd a diogelwch Contents Previous Next

    Iechyd a diogelwch

    Mae'r Gofrestrfa Tir yn cydnabod y newidiadau mewn dulliau gweithio a bod angen i ni adolygu a diweddaru'r 'offer' sydd ar gael i'n staff weithredu'n effeithiol ac yn ddiogel.

    Comisiynwyd ymgynghorwyr i ymgymryd ag astudiaeth iechyd a diogelwch fanwl, sy'n torri tir newydd o offer sgrin arddangos, gan gynnwys adolygiad o galedwedd, meddalwedd, amgylchedd ac agweddau seicogymdeithasol ar gyfrifiaduron. O ganlyniad gwnaethpwyd mwy na 50 o argymhellion a fydd, o'u gweithredu, yn rhoi'r Gofrestrfa Tir ar flaen y gad o ran safonau gweithio offer sgrin arddangos. Mae'r argymhellion i gyd wedi cael eu derbyn a bydd 2007/8 yn gweld rhaglen o weithredu'r argymhellion hyn.

    Gan barhau â'n nod o wella amodau gwaith staff sy'n gweithio gydag offer sgrin arddangos, treialwyd system ar-lein o hyfforddi ac asesu threialu a chafodd ei chyflwyno i bob swyddfa. Mae'n targedu cymorth gan aseswyr lle mae ei angen fwyaf ac yn darparu stôr o wybodaeth yn ymwneud ag iechyd a lles ein staff nad oedd ar gael o dan y system bapur flaenorol. Er mwyn gwella safonau mae'n rhaid i'n holl aseswyr mewnol feddu ar dystysgrif y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol mewn asesu risgiau sgriniau arddangos.

    Mae'r rhaglen flynyddol o archwiliadau iechyd a diogelwch wedi cael ei chwblhau, ac mae pob swyddfa a gafodd ei harchwilio wedi derbyn o leiaf asesiad 'safonol' ar gyfer cydymffurfiaeth. Mae'n bleser nodi y gwelwyd lleihad sylweddol yn y gyfradd damweiniau o 7.67 yn 2005/6 i 5.76 yn 2006/7.