www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Arweinwyr a rheolwyr Contents Previous Next

    Datblygu arweinwyr a rheolwyr

    Arweinwyr y Dyfodol yw rhaglen fewnol y Gofrestrfa Tir ar gyfer meithrin potensial staff drwy gymysgedd o aseiniadau, secondiadau a hyfforddiant. Mae dau brif linyn – y Modiwl Carlam Lleol seiliedig yn y swyddfa leol sy'n para flwyddyn (MCLl) a'r Modiwl Carlam Canolog a drefnir yn ganolog sy'n para tair blynedd (MCC).

    Her allweddol i gyfranogwyr y MCC yw llunio a chyflwyno fforymau arweinyddiaeth ddwywaith y flwyddyn, sy'n archwilio materion busnes 'go iawn' i'r Gofrestrfa Tir yn ogystal ag ystyried theori ac arferion arweinyddiaeth

    Ym Medi 2007 bydd y cyfranogwyr gwreiddiol yn cychwyn ar drydedd flwyddyn a blwyddyn olaf eu MCC. Dros y gylchred tair blynedd mae'r cyfranogwyr hyn wedi astudio cyrsiau MBA i ehangu eu gwybodaeth a chael secondiad i gael profiad ymarferol o wahanol rannau o'r sefydliad.

    Bydd pob unigolyn yn gwneud ymarfer adborth 360 gradd gwerthfawr i asesu eu hanghenion datblygu am y flwyddyn i ddod. Yn 2007 bydd rhai o gyfranogwyr y MCLl yn dilyn rhaglen datblygiad personol gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog. Mae eraill wedi defnyddio hyblygrwydd y rhaglen i gymryd rhan mewn prosiectau lleol ac mae rhai wedi 'profi'r dyfroedd' i weld sut beth fyddai gweithio mewn rhannau eraill o'r busnes, megis yn y Brif Swyddfa.

    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein hyfforddwyr rheolaeth lleol wedi llwyddo i weithredu diploma lefel 4 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (SARh) ar gyfer staff perthnasol megis arweinwyr tîm dosbarthol. Yn 2006/7, cofrestrwyd 219 o ymgeiswyr. Mae cyflwyno gweithdai i arweinwyr tîm dosbarthol wedi cyd-fynd yn effeithiol â'r SARh. Mae'r gweithdai hyn wedi ychwanegu persbectif gweithredol gwerthfawr at y sylfaen wybodaeth a ddarperir gan astudiaethau'r SARh..