www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Hyfforddiant a chymwysterau Contents Previous Next

    Hyfforddiant a chymwysterau

    Mae'r Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir yn cael ei gynnig mewn partneriaeth â Choleg y Gyfraith ac erbyn hyn mae'n gwrs datblygu gyrfa sefydledig i staff y Gofrestrfa Tir a myfyrwyr allanol.

    Mae dwy lefel i'r cymhwyster: y dystysgrif, sy'n gwrs sylfaen un flwyddyn ar lefel Safon Uwch, a'r diploma lefel gradd, sy'n gwrs dwy flynedd ac yn cynnig ystyriaeth gynhwysfawr a manwl o'r gyfraith eiddo, gan gynnwys y gyfraith ac ymarfer cofrestru tir.

    Yn 2006 cofrestrwyd 175 o fyfyrwyr mewnol a 75 o fyfyrwyr allanol ar gwrs y dystysgrif. Ar gwrs y diploma cofrestrwyd 155 o fyfyrwyr mewnol a 51 o fyfyrwyr allanol. Roedd cyfanswm y myfyrwyr ar y ddau gwrs yn fwy na 2,500 ac mae nifer y myfyrwyr allanol sy'n cofrestru yn parhau i gynyddu'n flynyddol.

    Mae saith aelod staff wedi llwyddo yn yr Asesiad o Gymhwysedd Technegol y flwyddyn hon a chael eu derbyn fel aelodau technegol o Sefydliad Brenhinol yr Arolygwyr Tir Siartredig (TechRICS). Roedd pump wedi dilyn NVQ Rheoli Data Gofodol lefel 4 ac roedd dau yn wirfoddolwyr gan ddefnyddio cyfuniad o'r diploma LRQ, profiad blaenorol a hyfforddiant strwythuredig.

    Mae RICS wedi diweddaru'r llwybrau i aelodaeth dechnegol hefyd gyda system bwyntiau newydd. Mae'r diploma LRQ yn cael ei gydnabod bellach fel cyrhaeddiad arwyddocaol tuag at y cyfanswm pwyntiau sydd ei angen. Gall staff sydd hefyd yn dangos cymwyseddau mapio ddilyn hyfforddiant strwythuredig 12 mis hefyd i ennill y pwyntiau sy'n weddill.