Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adoygiad blynyddol 2006/7 Ein gwasanaethau Contents Previous Next

Ein gwasanaethau

Mae gwasanaethau'r Gofrestrfa Tir yn cynyddu o ran math a nifer, ac yn cwmpasu darpariaeth statudol ac anstatudol. Rhagwelwn y bydd nifer y gwasanaethau a ddarparwn yn dyblu erbyn 2014. Maent yn cynnwys ein prosesau traddodiadol ar gyfer gwasanaethau cofrestru, er y cânt eu defnyddio llai wrth i e-drawsgludo arwain at ddefnyddio mwy o brosesau electronig a datblygu ystod o e-wasanaethau newydd. Mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn ymwneud â datblygu e-drawsgludo.

Rydym yn parhau i seilio ein darpariaeth gwasanaeth ar ein strwythur o swyddfeydd lleol ledled Cymru a Lloegr ond byddwn yn datblygu ffyrdd o weithio sy'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer. Rydym yn hybu ac yn cyflwyno ein gwasanaethau drwy amryw o sianeli - ein swyddfeydd, ein gwefannau, ein cyhoeddiadau a'n digwyddiadau. Mae mwy a mwy o staff yn codi o'u desgiau i werthu, marchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i'n gwasanaethau.Ond dydyn ni byth yn anghofio mai cofrestru tir yw ein gwasanaeth craidd, nac yn tanbrisio ein sgiliau a'n gwybodaeth unigryw yn y maes hwn.