www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adoygiad blynyddol 2006/7 Cadwyn Matrics Contents Previous Next

    Cadwyn Matrics

    Cafodd prototeip o wasanaeth Cadwyn Matrics y Gofrestrfa Tir ei lansio'n llwyddiannus i gwsmeriaid ar 29 Mawrth, gan gyflawni'r dangosydd perfformiad allweddol e-drawsgludo ar gyfer 2006/7.

    Mae e-drawsgludo yn un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol hyd yma ac mae lansio'r prototeip yn gam cyffrous yn y broses.

    Mae'r Gadwyn Matrics yn wasanaeth ar-lein sy'n caniatįu i weithwyr proffesiynol eiddo a'r rhai sy'n prynu ac yn gwerthu cartrefi olrhain cynnydd eu cadwyni eiddo ar sgrin. Bydd mynediad gan tua 900 o ddefnyddwyr posibl i'r prototeip, a disgwylir i'r nifer gynyddu yn ystod y cyfnod peilot.

    Mae'r defnyddwyr yn cynnwys cyfreithwyr a gwerthwyr tai a oedd, ynghyd ā staff cymorth, wedi cwblhau eu hyfforddiant Cadwyn Matrics ar 22 Mawrth 2007, wrth i dīm o hyfforddwyr y Gofrestrfa Tir ymweld ā'r tair ardal brawf, sef Portsmouth, Fareham a Bryste.

    Bydd y tīm e-drawsgludo yn canolbwyntio ar gefnogi cwsmeriaid a chasglu adborth ar brofiad cyffredinol cwsmeriaid o'r Gadwyn Matrics.

    Mae'r broses werthuso ffurfiol yn cynnwys adroddiad interim hanner ffordd drwy gyfnod y prototeip ac adroddiad terfynol ar ddiwedd yr ymarfer. Bydd y ddau yn darparu adborth gwerthfawr ar gyfer cynllunio gwasanaethau at y dyfodol.