|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Gwasanaethau masnacholMae gan y Gofrestrfa Tir stôr unigryw o sgiliau a data y mae ystod gynyddol o gwsmeriaid yn barod i dalu amdanynt. Sefydlwyd Tîm Gwasanaethau Masnachol i ateb yr anghenion busnes hynny. Mae'r tîm sy'n tyfu yn gweithio ym Mhenbedw, Coventry a Llundain ac ar ddiwedd Mawrth 2007 roedd 32 aelod o'r tîm. Mae'r gwerthiannau a gynhyrchir ganddynt wedi cynyddu o £0.6 miliwn yn y 12 mis i Fawrth 2006 i £1.8 miliwn yn yr un cyfnod hyd at Fawrth 2007. Mae tri phrif faes busnes masnachol:
Un o'r gwasanaethau newydd yw Golwg ar Eiddo, lle mae'r Gofrestrfa Tir yn codi tâl am fonitro perchnogaeth eiddo arbennig neu bortffolio o eiddo. Mae'n apelio at ddatblygwyr sy'n cynllunio prif brosiectau adeiladu, awdurdodau lleol, cwmnïau morgeisi, gwerthwyr tai ac eraill. Mae datblygu gwasanaethau masnachol yn cynnig sawl mantais i gwsmeriaid ac i'r Gofrestrfa Tir. Mae'r manteision i ni yn cynnwys y gallu i ddefnyddio'r elw i gyllido anghenion buddsoddi yn y dyfodol a gwella ansawdd gwasanaeth yn ogystal â datblygu sgiliau newydd ein staff. O ran ein cwsmeriaid, mae'r Gofrestrfa Tir yn defnyddio ei sgiliau a'i hadnoddau i gynnig budd i'r gymuned ehangach. |
|||||||||||||