Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adoygiad blynyddol 2006/7 Astudiaeth achos 2 Contents Previous Next

Andy Pikesley, Rheolwr Datblygu'r Gofrestr, Swyddfa Durham (Boldon)

Yn BBC Radio Cumbria eisteddais wrth ddesg wrth ochr y cyflwynydd Gordon Swindlehurst a oedd wedi gofyn i mi wisgo'r clustffonau. Doedd dim cyfle i drafod y cyfweliad oherwydd roedd Gordon eisoes yn darlledu'n fyw.

Roedd ein datganiad i'r wasg o'i flaen a dechreuodd drwy ofyn cwestiynau am waith y Gofrestrfa Tir a'r ymgyrch yn Cumbria. Roedd y cyfan yn eithaf cyflym a chyffrous, ac ar ôl 90 eiliad roedd y cyfan drosodd.

Yn y Cumberland News, papur newydd poblogaidd ymysg y gymuned ffermio, daeth y golygydd ffermio Anna Burdett i gwrdd â mi. Roedd y cyfweliad yma'n llawer hwy, 10 munud efallai, gydag Anna yn ysgrifennu nodiadau llaw-fer ac yn rhoi cyfle i mi gyfleu fy neges, gan gynnwys ystadegau am dir digofrestredig yn Cumbria, teitl wedi'i warantu gan y wladwriaeth a gwell ddiogelwch yn erbyn sgwatwyr.

Erbyn i mi gwrdd â chriw Border TV ar lannau Llyn Windermere, roeddwn i'n fwy profiadol. Cyrhaeddon ni'n hwyr felly roedd yn fater o yrru 'na, tacluso'r tei a mynd o flaen y camera. Llwyddon ni i wneud y cyfweliad mewn un cynnig - a'r peth gorau oedd nad oeddwn i wedi troi at fy mrîff o gwbl.